Traciau Huw S

Huw Stephens

Mai 5-6, 2004

Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

Eisiau mwy o fanylion am un o'r traciau gafodd eu chwarae gan Huw Stephens ar C2 wythnos yma? Darllenwch ymlaen.....

Nos Fercher, Mai 6

Transglobal Underground - The Khaleegi Stomp
Cân wallgo oddi ar albym o'r enw Impossible Broadcasting. Cerddoriaeth o amgylch y byd wedi ei uno ar un albym hollol unigryw - y mwya fi'n clywed o gerddoriaeth y byd, stwff traddodiadol a modern, y mwya' fi ishe clywed.

Doli - Diwrnod Fi
Roedd Doli yn fand gwych, gyda Mared a Rhun Lenny yn gweithio ar gerddoriaeth pynci ar label RASP. Mae'r band wedi gorffen erbyn hyn, ond mae'n debyg fod Mared wedi bod yn gweithio ar draciau newydd gyda'r cynhyrchydd Kris Jenkins.

SFA - Valet Parking (remics Force Unknown)
Oddi ar yr albym Phantom Phorce ar label Placid Casual - trac gwych! Os gawsoch chi anhawaster yn ffeindio'r albym, mae'n werth aros a checio allan superfurry.com dros yr wythnosau nesaf, gan fydd yna fwy o gopiau ar werth ar ôl i gwmni dosbarth 3MV, oedd yn gyfrifol am yr albym, gau lawr yn ddiweddar. Mae'n rhyfedd meddwl bod cwmni rhywle gyda miloedd o gopiau o Phantom Phorce yn iste yn ei swyddfeydd nhw!

Kenavo - Mwnci Cas
Trac nath Huw Evans ac Angharad Griffiths adolygu heno. Mae'r EP Twix, Crisps a Bechdan Tywod ar gael o kenavo.2ya.com. Fi'n hoff iawn o hon, er fod y cynhyrchu falle ddim yn wych, y trac gore oddi ar yr EP gan Cynan a Rhys Llwyd.

Vinny Miller - Breaking Out of Your Arms
Canwr acwstig ydi Vinny, ond bob hyn a hyn, fel arfer ryw hanner ffordd drwy un o'i ganeuon, mae'n hoffi mynd yn wallgof a chware 'drwm a bas' hollol wallgof. Mae ganddo albym gwych, os nad ychydig yn rhyfedd ond hefyd yn dor-calonnus ar adegau, ar label 4AD.

Frizbee - Ti (Si Hei Lw)
Trac o sesiwn wthnos dwetha gellir ei glywed fan hyn. Ewch i www.friz-b.co.uk am fwy o wybodaeth Frizbee, a gigs a phethe felly. Fydd ei albym Hirnos allan ar label nhw eu hunain ar ddechrau Mehefin.

Melys - I Can't Stop This (Even if I Wanted To)
Fi di chware Eyeliner a Disgyn oddi ar y sengl newydd sy allan ddiwedd mis Mai ar label Sylem, ond hon ydi fy hoff gân oddi ar y CD newydd, sgleiniog yma gan Melys. Mae'n wahanol i stwff ma Melys wedi gneud o'r blaen, ond dal yn ddibynnol ar yr hyn ni di dod i arfer gan Melys.

Jakokoyak - Murmur
Oddi ar Am Cyfan Dy Pethau Prydferth, albym gwych Jakokoyak. Mae'n chware dau gig hefyd wthnos nesa - nos Fawrth (11 Mai) yn Journeys Caerdydd, a Mai 14 yn Clwb Pêl Droed Aberystwyth gyda Cate Timothy, Sweet Baboo a David Mysterious. Fi'n edrych mlaen lot i'r noson - mae'r gerddoriaeth am fod yn wych! Cliciwch yma am y gigs i gyd.

Nos Fawrth, Mai 5

MC Mabon - Tymheredd yn y Gwres
Clasur gan Gruff Meredith, aka MC Mabon, oddi ar yr albym Nia Non.

Mylo - Destroy Rock 'n' Roll
Mae Mylo yn DJ ifanc o'r Alban, a mae hon oddi ar albym o'r un enw, fydd allan Mai 24, ar label Breast Fed. Mae'r trac yn defnyddio sampl o ddyn sy'n swnio fel pregethwr, yn rantio yn erbyn pobl fel Prince, Duran Duran a David Bowie. Gwych!

Frizbee - Dora Gusan
Sesiwn naethon ni ddarlledu am y tro cyntaf wthnos dwetha gan y band talentog o Flaenau Ffestiniog. Sesiwn sborron, llawn egni a melodi, a phobl hynod o neis. Gwrandewch ar y sesiwn eto drwy glicio fan hyn!

Zabrinski - 100th Yeti
Es i weld Zabrinski wythnos dwetha yn noson Abri yn y Toucan, ac roedden nhw'n wych! Mae'n amlwg fod y teithio gyda'r SFA wedi talu, achos mae nhw'n fwy tynn a gwych nag erioed o'r blaen. Edrych mlaen yn fawr i'r albym newydd ar label ankstmusik.

DJ Shadow - Midnight in a Perfect World
Oddi ar yr albym Endtroducing, sy'n cael ei ystyried yn un o'r albyms dawns gorau erioed, ddath allan ar ddiwedd y nawdegau. Ac yn wir, mae'n albym hynod o dda a dwfn, yn hollol ddibynnol ar sampls ac yn llawn o syniadau a offerynnu gwych.

Catatonia - Dim Bran
Clasur! Mae'n neis bod yn nostalgic weithie yn dydi?

Jerry Lee Lewis - Whole Lotta Shakin Going On
Mae hon, o 1957, ar albym nes i brynu dros y penwythnos o'r enw 'The Legendary Story of Sun Records' - sy'n gasgliad o gerddoriaeth gath ei recordio yn stiwdios hanesyddol Sun, gafodd ei ddechre yn 1950 gan Sam Phillips. Mae'n cynnwys Johnny Cash, Ike Turner, Carl Perkins, Roy Orbison ac Elvis, ymysg y bobl nath recordio yn y stiwdio pwysig yma. Y gân hyna' fi erioed wedi chware ar C2 (fi'n meddwl).

Ashokan - Y Llyn
Y trac olaf, a gorau, oddi ar albym y 'Khan, sef Diolch am Ddal y Gannwyll. Gallwch chi weld Ashokan yn chware yn Maes B eleni, yn Steddfod Casnewydd. Cliciwch yma am fwy o fanylion Maes B.

Invisible Ninja Storm - Byw yn y Donfedd
Nes i ffeindio hwn yn cuddio lawr ochr y silff adre bore 'ma. Trac ddawns dwfn ac eitha caled, o'r label tanddearol Fitamin Un. Llais MC Sleifar (aka Steffan Cravos) sydd arni, a'r trac yn anodd ei ffeindio erbyn hyn.

Beta band - Simple
Un o uchafbwyntiau'r albym newydd, Heroes to Zeroes, gan yr Albanwyr difyr. Mae allan nawr ar label Regal.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.