Ebrill 27-28, 2004

Huw Stephens

Traciau Huw S

Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

Eisiau mwy o fanylion am un o'r traciau gafodd eu chwarae gan Huw Stephens ar C2 wythnos yma? Darllenwch ymlaen.....

Nos Fercher, Ebrill 28

The Chi-Lites - We Are Neighbours
Chydig bach o ffync i ddechre heno, a pam ddim? Fi'n chware hon oddi ar Sampled 2, sef casgliad o ganeuon gwreiddiol gan bobl fel Michael Jackson, Bob Marley, Chris Rea (!) a Michael Zager Band, sydd wedi cael si samplo'n ddiweddar i greu hits enfawr i bobl fel Basement Jaxx, A Tribe Called Quest, Wiseguys a Chemical Brothers. Gath un linell o hon ei samplo gan Groove Armada a'i defnyddio ar If Everybody Looked the Same.

Skep - CTRL S
Y prif gân oddi ar albym diweddar, gwych Skep. Mae llais Dai Lloyd wedi gwella gymaint ar yr albym yma gyda Dai yn troi yn ôl at ganu, a canu am bethau sy'n wirioneddol bwysig iddo. Ni'n meddwl am ail enwi C2 yn C2 Lloyd. Dim wir. Cliciwch yma i glywed adolygiad o Ctrl-S.

Frizbee - Dora Gusan, Ti (Si Hei Lwli) a Ar ôl 9
Tri trac newydd sbon gan Frizbee mewn sesiwn arbennig ar gyfer C2. Mae'r band o Flaenau Ffestiniog ar ganol recordio ei halbym cyntaf ar y foment, fydd allan ym mis Gorffennaf. Mae'r sesiwn yn un hynod o dda, a gallwch ei chlywed yn llawn drwy glicio fan hyn. Nes i weld rhan o set Frizbee yn Ty Tawe yn Abertawe sbel yn ôl, ac mae nhw yr un mor dda, os nad gwell, yn fyw!

TY a Roots Manuva - Oh U Want More?
Roedd Huw Evans o Mwsog yn westai ar C2 gyda Daf Du ddim rhy bell yn ôl, ac fe ddewisodd y gân yma gan Ty (sy'n cael ei ynganu fel "tai"), ac argymell i fi brynu'r albym. Mae hon yn ywch, ac yn cynnwys rapio unigryw a gwych Roots Manuva. Mae Ty yn chware yng Nghlwb y Toucan, Caerdydd hefyd, ar Fai 15ed.

Mwsog - Chwantesblyg
A son am Mwsog, dyma fand Huw Evans o'n i jyst yn son amdano. Demo albym ydi hwn, ac mae'n swnio'n hynod o dda, ac yn hynod o ryfedd hefyd. Mae Mwsog yn chware yn TJ's Maes B yng Nghasnewydd.

Melys - Eyeliner
Hwre! Mae Melys nôl gyda sengl newydd, a'r gerddoriaeth newydd gyntaf ers Casting Pearls. Mae tair trac ar y sengl (naethon ni chware Disgyn neithiwr), ac yn nodweddiadol o swn pwerus, perffaith Melys. Mae nhw wrthi yn trefnu taith ar y foment, ar ôl bod yn chware'n Texas yng ngwyl South by South West, felly fi'n gobeithio fydd ne ddyddiadau o amgylch Cymru.

Lucky Jim - You're Lovely To Me
Dau wr o Brighton a Gogledd Iwerddon, ac yn creu cerddoriaeth acwstig, hollol wych. Mae hon yn swnio'n hynod o debyg i Bob Dylan, ond mae gweddil yr albym, Our Troubles End Tonight, yn amrywio dipyn, ac fydd e allan ar label Skint.

Gorky's Zygotic Mynci - Dyle Fi
Wrth fy modd gyda hon, un o'r uchafbwyntiau oddi ar Gorky 5, albym wnaeth ddim mor dda a ddylsai wedi gan y Gorky's. Mae gallu Euros Childs i sgwennu cerddoriaeth a llunio geiriau mor wych, ond gwneud iddyn nhw swnio mor syml yn anhygoel. Diolch byth am y Gorky's! Fydd Patio, Tatay a Bwyd Time ar gael i'w prynu eto yn fuan iawn. Gwrandewch am fwy o fanylion!

Kings of Convenience
Deuawd o Norwy, a'r sengl gyntaf ers yr albym Quiet is the New Loud. Mae ne rywbeth am rhein sy'n gwnued iddyn nhw swnio mor arbennig. Siwr fydd hon i'w chlywed eto ar C2 yn fuan!

Nos Fawrth, Ebrill 27

Mozz - Yn y Bore
Dal methu cael digon o'r gân yma - mae'n hafaidd er swn y glaw, mae'n optimistig ond yn swnio fel y gân fwya hamddenol yn y byd, a mae'r cynhyrchu yn wych! Mae'n hen bryd i Mozz ryddhau record!

Stone Roses - Waterfall (mics Justin Robertson)
Pan o'n i yn yr ysgol nes i ryw fath o wrthryfela yn erbyn Stone Roses, band dylanwadol Mani, Ian Brown a John Squire o Fanceinion. Yn ddiweddar nes i ail ddarganfod yr albym gwych yma o remicsis - clasuron gan fand gwych, wedi eu hail-wampio i swnio'n hyd yn oed fwy perffaith.

MC Mabon - Tiwn Gron
Tiwn gron, yn union fel mae'n deud ar y tun, gan MC Mabon. Hon oddi ar yr albym Nia Non ar label ankstmusik.

Willis - Word Up
Mae Willis yn artist o Loegr, dynes gyda llais anhygoel, ac yn gyfrifol am fy hoff albym o llynedd, Come Get Some. Mae hon, fersiwn o gan Cameo, ar ei sengl newydd hi, Take You High.

Rocyn - Sosej, Bins a Chips
Hwre! Er gwaethaf y swogs (weithie), roedd Llangrannog yn wych! Clasur o gân oedd yn hynod o boblogaidd tra'n sglefrolio. Yn ogystal â snogio unrhywun oedd gallu symud.

MC Saizmundo - Yn Enw Duw
O, Saizmundo, mae'r haf wedi cyrraedd - ti'm ffansi cymryd hi'n isi am dipyn, rhoi dy draed i fyny a canu am hufen ia? Na? O oce. Hon i'w chlywed ar yr albym MC Saizmundo yn Cyflwyno Blaen Troedar.

Max Sedgley - Happy
Can hafaidd, rhannol offerynnol, yn swnio fel band pres ar lan y môr Aberystwyth yn mynd yn wallgof. Sgen i ddim manylion am y gân yma yn anffodus.

Topper - Hapus
Ti'n neud fi Deimlo'n Hapus, ti weld yn ddigon Hapus dy hun! Edrych ymlaen i glywed stwff newydd Dyfrig Evans. Daliwch i wrando i C2....

The Streets - Fit But You Know It
Fersiwn y band The Futureheads o'r sengl newydd, eith yn uchel yn y siartiau wythnos yma. Wrth fy modd gyda'r Streets a methu aros am yr albym 'A Grand Don't Come For Free'.

Melys - Disgyn
Cân newydd sbon a EP newydd sbon Melys - 'Eyeliner' sydd allan ar label Sylem ar Fai 31. Tair cân hyfryd byddwn ni'n sicr yn chware ar C2, Radio Cymru dros yr wythnose nesa.

Malcolm McLaren - About Her
Trac o ffilm newydd Quentin Tarrantino - Kill Bill 2!

Geraint Jarman - Rhyfela yn y Ser
Hon oddi ar yr albym Cerddorfa Wag. Pa mor dda fysai clywed albym newydd gan Jarman? Edrych mlaen i'w weld e yn Maes B yng Nghasnewydd!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.