Ebrill 6 - 7, 2004

Huw Stephens

Traciau Huw S

Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

Eisiau mwy o fanylion am un o'r traciau gafodd eu chwarae gan Huw Stephens ar C2 wythnos yma? Darllenwch ymlaen.....

The Rubinoos - I Think We're Alone Now
Falle'ch bod chi'n ddigon hen i gofio y fersiwn gwreiddiol o hon, gan y gantores bop Tiffany. Dyma fersiwn y band Americanedd o'r glasur, sy'n swnio fel cân y Beach Boys. Mae hon oddi ar gasgliad aml-gyfrannog wych o'r enw 'Death Disco', sy'n cynnwys tracie unigryw gan artistiaid amrywiol hen a newydd fel The Kinks, The Libertines, Bob Marley & The Wailers, Sugarhill Gang a llawer mwy!

Gwallt Mawr Penri - Disgyn
Trac hudol a hyfryd o gyn-sesiwn i ni fan hyn ar C2, Radio Cymru. Mae Gwallt Mawr Penri yn un o brosiectau yr aml-dalentog Dyl Mei o Pep le Pew, ac ar hyn o bryd mae o wrthi'n recordio sesiwn arall i C2 o dan yr enw Mehefin y Cyntaf - gwyliwch y gofod!

Mooi - Sway
Demo newydd sbon gan y band yma o Wrecsam, sy'n cynnwys dwy ferch ac un bachgen. Ges i'r pleser o weld Mooi yng Nghlwb Ifor Bach unwaith, ac mae ei swn yn arbennig o dda a 'laid-back'. Gallwch ddisgwyl glywed mwy gan Mooi yn y dyfodol agos!

Third Light - Movin On
Yr unig sengl, gwych a hynod o hapus mae'r band Third Light wedi rhyddhau hyd yn hyn, sy'n cynnwys cyn-aelodau y Big Leaves. Nes i chware hon achos fod Meilir Gwynedd mewn heno yn adolygu.

Anhysbys - Twyni Tywod
Sef y brif drac oddi ar ei albym newydd sydd allan ar label Gwynfryn Cymunedol. Cliciwch yma i gael fwy o fanylion.

Mclusky - That Man Will Not Hang
Band o Gaerdydd sydd wedi creu dilyniant weddol fawr drwy deithio a gigio eu sioe bywiog, gwallgof a trwm o amgylch y byd. Wir i chi, mae nhw'n nyts yn fyw, fel arfer yn gorffen mewn pentwr o chwys wrth ochr y llwyfan. Dyma'r sengl gyntaf o'r albym newydd, 'The Difference Between Me and You is That I'm Not on Fire', gafodd ei recordio yn San Francisco gyda Steve Albini, cynhyrchydd albym 'In Utero' - Nirvana. Trwm.

Super Furry Animals a Goldie Lookin' Chain - Motherf****r
Dyma drac newydd anweddus SFA a'r GLC! Mae'n debyg fod y gân wedi bodoli ers ryw ddwy flynedd, ond unwaith wnaeth y GLC recordio ei rhan nhw, roedd y Furries yn hapus i'w rhyddhau. Nath y ddau fand berfformio hon yn y gig yn y CIA wythnos dwetha, ac mae ar gael am ddim i'w lawr lwytho ar placidcasual.com.

Texas Radio Band - Chwaraeon
Wnaeth Meilyr Gwynedd ac Angharad Bizby adolygu albym 'Baccta' Crackin' heno - roedd yr ymateb yn dda iawn. Ewch i www.slacyr.co.uk i weld safle gwe newydd sbon y label yma!

Lo Cut a Sleifar - Smelly
Trac gwych fydd ar albym newydd y ddeuawd hip-hop - 'Miwsig I'ch Traed a Miwsig I'ch Meddwl..'

Sugarhill Gang - Rappers Delight
Anthem hip-hop! Un o'r tiwns cyntaf hip-hop i lwyddo'n fasnachol, gyda llinell bas hynod o drwm! Allwch chi ffeindio hon ar unrhyw gasgliad aml-gyfrannog hip hop gwerth chweil! Tip Top Hip Hop - fel dywed fy arwr oes Ray Gravell!

Jakokoyak - Eiddil
Aaaa, y gan wnaeth dynnu sylw pobl yn wreiddiol at Jakokoyak, bellach i'w ffeindio ar yr albym 'Am Cyfan Dy Pethau Prydferth' ar label Peski. Mae Rhys Edwards, y dyn tu ôl i'r band, yn gweithio ar gynnyrch newydd ar hyn o bryd, ac yn brysur yn rhedeg label Peski, a safle gwe sebon.co.uk, fydd yn gwerthu CD's Cymraeg ar y we. Newyddion da i fans cerddoriaeth diog neu tramor!

Phoenix - Run, Run, Run
Neu i roi'r teitl anwyddogol, Hyfryd, Hyfryd, Hyfryd. Fi'n chware hon eto achos fod hi'n wych, allan nawr, ac ar albym y band yma o Baris, sef 'Alphabetical'.

Ashokan - Seniorita
Un o'r tracie allwch chi ffeindio ar 'Diolch am Ddal y Gannwyll', albym newydd y 'Khan. Naethon nhw chware eu gig cyntaf yn y Gogledd yn ddiweddar gyda Quidest, ac mae'n debyg iddyn nhw fwynhau y profiad, ac yn hynod o falch pan nath y band Eryr droi fyny i'w gweld - enwedig gan mai nhw oedd yr unig bobl yn y gynulleidfa!

Graham Coxon - Bittersweet Bundle of Misery
Sengl cyn gitarydd Blur. Hon ydy'r ail sengl iddo fe ryddhau fel artist unigol a mae hi allan ar Fai 3ydd. Mae hi hefyd yn ymddangos ar ei albym 'Happiness in Magazines' sydd allan ganol mis Mai, a bydd Graham Coxon yn chware yng Nghaerdydd yn mis Mehefin. Cliciwch yma am fanylion.

Dau Cefn - Cawod Olaf
Trac gwych o'r albym Mozzarella daeth mas yn 2002 ar label Awen - deunydd newydd i ddod gan Dau Cefn yn fuan.

Mountaineers - I Gotta Sing
Cân o'r albym 'Messy Century' gan y band o ardaloedd Wrecsam a Lerpwl - hyfryd!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.