Mawrth 23-24, 2004

Huw

Traciau Huw S

Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

Eisiau mwy o fanylion am un o'r traciau gafodd eu chwarae gan Huw Stephens ar C2 wythnos yma? Darllenwch ymlaen.....

MC Mabon - Cariad y Cwn at y Moch
Mae MC Mabon yn gweithio ar ei albym nesaf ar gyfer label Slacyr. Yn ol bob son, mi fydd hi'n albym ddwbl. Dyne gyd ni'n gwybod amdani ar y foment.

Beastie Boys - Fight For Your Right
Un o anthemau y 90au gan y triawd hip-hop boncyrs, siwr o fod fy hoff fand hip-hop. Nethon nhw ddechrau gneud cerddoriaeth oedd yn sexist a rapio am yfed a bod yn ddrwg, gyda caneuon yn llawn rhegi. Erbyn hyn mae nhw wedi tyfu lan ac yn rapio am bethau fwy 'aeddfed' o bosib, mae un yn Buddhist, ac mae nhw wedi stopio rhegi, ond mae'r gerddoriaeth dal yn wych. Checiwch allan yr albym Paul's Boutique gan y Beastie Boys; clasur hip-hop gaeth ei gynhyrchu gan Mario Caldato Jnr, y dyn wnaeth gynhyrchu Phantom Power Super Furries.

Quidest - Cyn y Bore, Benny a Lawr ar Stryd Dychymyg
Tri trac newydd o sesiwn Quidest i C2. Mae'r band wedi bodoli ers ryw bum mlynedd a wedi rhyddhau eu cerddoriaeth ar label Gwynfryn, ac yn fwyaf enwog am ei can hynod o catchy sy'n mynd - Pawb yn deud bod nhw isho mwy Nes i fwynhau gweld nhw ar daith Radio Cymru Dolig '02 yn Blaenau Ffestiniog, gyda'r canwr yn sefyll ar ben amp yn cael pawb i glapio.

Super Furry Animals - Liberty Belle (remics Mario Caldato JR) a The Undefeated (remics Llwybr Llaethog)
O'r diwedd! Tracs remics SFA ar C2! Mae pawb sy'n berchen ar DVD Phantom Power yn gwybod am y remicsys yma o ganeuon yr SFA gan bobl fel Killa Kela, Bravecaptain, Four Tet, Llwybr Llaethog, High Llamas a Boom Bip ymysg eraill. Nawr mae'r traciau ar yr albym Phantom Phorce, sydd yn dod allan ar Ebrill 12 ar label Placid Casual.
Mae llais Mario C (gwelwch uchod) rhwng bob remics, ac fel rhyw fath o glud rhyfedd yn dal yr holl beth at ei gilydd. Mae'r albym yn wrandawiad da, gyda fersiynnau doniol, diddorol a difyr o'r caneuon gwreiddiol yn hynod o unigryw. Wythnos nesaf ar C2; trac newydd SFA a GLC - Motherf****r!

The Streets - Fit But You Know It
Mike Skinner a'r strydoedd. Dyma stwff newydd y band ers yr albym Original Pirate Material, oedd yn chwa o awyr iach ryw ddwy flynedd yn ol, gyda'I ganeuon am ferched, yfed gormod a clybiau nos. Mae'n hawdd deall pan fod y Streets yn ffan o'r Goldie Lookin Chain! Mae'r rapio yn rybish, wrth gwrs, ond mae'n onest ac yn son am beth sydd yn digwydd yn ei fyd e, gyda elfen gryf o hiwmor. Neis.

Bonnie 'Prince' Billy - New Partner
Canwr gwlad/gwerin hynod o dalentog ac arbennig, William Oldham, ydi Bonnie 'Prince' Billy, sy'n dod o Kentucky yn yr UDAmerica. Mae'r rhestr o recordiau mae wedi rhyddhau yn un faith a chymleth, gan ei fod wedi rhyddhau nhw o dan gymaint o enwau gwahanol. Pan ddechreuodd, roedd yn galw ei hun yn Palace Brothers, Palace Songs a Palace Music.
Mae'r albym yma ar label Domino, yn gasgliad o ganeuon y tri band yma wedi eu canu gan Will Oldham, er mai fe oedd yn y band yn y lle cyntaf. Hei, mae'n creu penbleth I fi hefyd, ond be sy'n bwysig ydi fod y caneuon yma mor arbennig. Os chi'n hoffi'r gan yma, chwiliwch am albyms eraill BPB!

Sintra - Cysgod
CD newydd gyda llais hyfryd Nia Morgan. Falle'ch bod chi'n cofio y trac Llonydd wnaeth ymddangos ar y cd amlgyfrannog Dim Apathi ar label Dockrad. Fi yn. Roedd e'n dda.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.