Dewis Huw

Beth sydd ar stereo Huw Stephens wythnos yma?

Mae Huw Stephens yn cyflwyno ar C2 bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

The Keys - From Tense to Loose To Slack
Mae gen The Keys sengl arall allan yn fuan - 'From Tense to Loose To Slack', sef trac arall oddi ar 'The Keys', eu halbym gwych diweddar. Mae 'ne swn dipyn yn country a western ar hwn, ond ar ddiwedd y dydd mae'n gân bop syml a hapus, yn gorfoleddu mewn bywyd bob dydd, sy'n rhwybeth mae'r Keys yn gwneud mor dda.

Ar hyn o bryd mae nhw ar daith gyda Love, band Americanaidd o'r 60au sy'n gyfrifiol am yr albym hynod o uchel ei barch, 'Forever Changes' (hoff albym Guto SFA hefyd, ffans ffeithie), a band ma'r Keys wedi hoffi ers blynyddoedd.

Texas Radio Band - Baccta Crackin
Mae'n anodd credu rywsut mae hwn ydi albym cyntaf y Texas Radio Band - mae nhw wedi bod o amgylch ers bron i bum mlynedd, a wedi rhoi gymaint o gerddoriaeth gwych i ni, o 'Bobsleigh' ar yr EP Y Tywysoges hyd at y sengl 'Love is Informal', heb son am y gigs, sydd yn cario mlaen i wella a gwella. Ond mae wedi bod yn werth yr aros, gan fod Baccta Crackin yn albym hynod o dda.

Wedi ei gynhyrchu gan Dyl Mei (a mae'n gyfreithiol angenrheidiol fan hyn i fi ddeud wrthoch chi mae Dyl Mei ydi Cynhyrchydd y Flwyddyn yng Ngwobrau RAP am y dair mlynedd dwetha a'r dyn mwyaf cwl yng Nghymru), ac yn cael ei ryddhau ar ei label e a Marc Coke, Recordiau Slacyr Records, mae'r albym wedi cael ei roi at ei gilydd yn hynod broffesiynnol. Mae llais Minny yn wych drwy gydol yr albym, ond yn enwedig ar fy hoff drac, 'Rhan o Ni', a swn cyffredinol y band yn seicadelig, hudol, tyn a gwreiddiol. Mae ne deimlad gyda'r albym fod pethau mynd i godi i'r TRB, a hen bryd hefyd.

Sherbet Antlers - Hikikomorai/Let Yourself Go
Dwi di dechre blino ar ddeud mae band newydd John a Kevs o Llwybr Llaethog a Mark a Paul o Catatonia a'r Cyrff ydi'r Sherbert Antlers, ond mae'n wir. Ar y cychwyn, do'n i ddim yn rhy hoff o'r sengl yma ma' rhaid i fi gyfadde. Ro'n i'n ffan mawr o Catatonia, a'r Cyrff (ar ôl clywed nhw blynyddoedd ar ôl iddyn nhw orffen), ac yn hoff iawn o stwff Ll. Ll.

Ond roedd y sengl dau drac yma yn fy ngholli i 'chydig. Ond, fel gymaint o gerddoriaeth, mae angen gwrando mwy nag unwaith i adael i'r swn lifo mewn i'ch clustie. Erbyn hyn, dwi'n hoffi'r ddwy gân yn fawr iawn, yn enwedig 'Hikikomorai', y trac cyntaf. Mae allan nawr ar label Neud Nid Deud.

Ta ra am y tro,

Huw Stephens (13 Chwefror)


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.