Dewis Huw

Beth sydd ar stereo Huw Stephens wythnos yma?

Mae Huw Stephens yn cyflwyno ar C2 bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

MC Saizmundo yn cyflwyno Blaen Troedar
I chi a fi mae hwn yn albyn llawn, ond mae Saizmundo yn mynnu taw casgliad o'i waith hyd yn hyn yn unig yw'r CD yma. Beth bynnag yw e, mae'n gasgliad gwerth chweil. Mae pawb yn gwybod erbyn hyn fod hip hop yng Nghymru yn safonol ac yn medru dal sylw ffans cerddoriaeth o bob math - diolch yn bennaf i Llwybr Llaethog, Fleapit, Headcase Ladz a'r Tystion ymysg eraill, ac yn fwy diweddar Pep le Pew, Lo Cut a Sleifar, MC Mabon (er yn llai o rapiwr dyddiau yma) a'r Goldie Lookin Chain.

Mae MC Saizmundo yn rhoi ongl unigryw a gwahanol i'r sîn. Mae rhai o'r caneuon yn delio â materion dwys fel America a'u polisi rhyngwladol, ag eraill yn trafod materion gyda fwy o hiwmor, fel ei pastiche o 'Stan' gan Eminem, gyda ffan o'r enw Terri yn sgwennu llythyr at Huw Ceredig (aka 'Reg' o Pobl y Cwm)!

Mae'r cynhyrchu yn wych, diolch i ddwylo mentrus Dyl Mei a'i stiwdio yn Gardolbenmaen. Dydi hwn ddim yn albym sy'n mynd i eistedd yn gyfforddus nesaf i'r rhan fwyaf o'r recordiau sy'n cael ei chwarae yn ystod y dydd ar Radio Cymru, ond i bawb sy'n gwybod y sgôr, mae hwn yn albym cyffrous, diddorol, egniol a da.

Estella - Lizarra
Er fod Estella wedi bod o amgylch ers diwedd y nawdegau, ac wedi creu enw iddyn nhw'u hunain drwy gigio, gigio a gigio 'chydig bach mwy, dyma yw eu halbym cyntaf go iawn (fi ddim yn cyfri'r albym byr 'Tân', a'u CD cyntaf di-enw). Mae'r teitl, 'Lizarra', yn crynhoi fod Estella wedi llwyddo i greu gyrfa diddorol; mae'r teitl yn enw Basgeg am y dref Estella, ac yn symbolaidd o'r teithio dros Ewrop mae'r band wedi gwneud i Wlad y Basg a Llydaw ymysg llefydd eraill.

Mae'n albym ddwyieithog, ac yn dangos fod y band yn gallu creu cerddoriaeth wych yn y ddwy iaith, gyda llais Lauren Bentham yn dal yr holl albym at ei gilydd. Mae'r offerynnu yn wych, a fi'n hoff iawn o'r caneuon fwy acwstig. Mae nifer o genres yn cwrdd â'i gilydd yma, 'chydig o ffync ac ychydig o jazz yn cymysgu gyda pop a chaneuon fwy trist a meddal. Ond dwi'n dueddol o feddwl fod 'ne ddim gormod o steils yma; mae'r cynnyrch gorffenedig yn gyfforddus ac yn mynd i apelio at lawer.

A does ne ddim byd gwaeth na band yn trio arbrofi a gwneud rhywbeth sydd dim yn dod yn naturiol iddyn nhw, felly mae Lizarra yn albym gall Estella fod yn falch ohono.

MC Mabon - Cleisie
Mae MC Mabon ar fin rhyddhau ei albym newydd. Dyma'i bumed, yn cael ei ryddhau chwech mis yn unig ar ôl ei albym ddiwethaf. Yr unig beth rydyn ni'n gwybod am yr albym yw'r teitl, sef 'Cleisie', a'i fod yn dod allan ar label RASP (is-label Fflach). O, a bod MC Mabon wedi cael ei daflu allan o'i westy tra'n recordio'r albym! Ond dydi hwnne ddim yn synnu ni o gwbl. Gwrandewch ar C2 wythnos yma i glywed yr albym newydd.

Huw Stephens, 23 Ionawr 2004


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.