Dewis DJ Dafis - Ionawr 2004

Be sy yn y bocs?

Wel helo a chroeso i 2004! Ma' Huw i ffwrdd am bythefnos felly dwi'n cael cyfle i agor fy mocs i'r cyhoedd. (oo, er!)

1. Basement Jaxx - Good Luck
'Good Luck' ydi'r ail sengl oddi ar yr albym wych Kish Kash. Mae datblygiad arddull cynhyrchu y Jaxx yn amlwg yn y gân yma, gyda llais gwych Lisa Kekaula yn ychwanegu at y ffwnc. Mae 'na hefyd remics gwych gan Tim Deluxe sy'n gwneud y trac yn fwy addas i loriau dawns.

2. Lo-cut a Sleifar - Smelly (Sesiwn C2)
Does 'na ddim llawer o ganeuon sy'n gwneud i chi eisau mynd adre' a cael bath ar ôl gwrando, ond mae hon yn un. Un o 3 trac newydd fel sesiwn i C2 ydi 'Smelly'. Cân ffwnci, samples gwych, ac yn uffernol o ddoniol. Spot on.

3. Tube And Berger Feat Chrissie Hynde - 'Straight Ahead' (Direction)
Trac breakbeat offerynnol yn wreiddiol gyda trac llais wedi'i ychwanegu ar gyfer 'y farchnad bop'. Fel arfer wrth ychwanegu vocals i draciau dawns ma' 'na beryg bod yr holl beth yn dechrau arogli yn gawslyd, ond trwy lwc mae hwn yn swnio'n dda iawn.

Ond dyna ddigon ar fod yn neis! Amser i droi at y cach sy ar y farchand ar hyn o bryd. G'newch yn siwr fod chi'n cadw'n hollol glir o Amy Studt - All I Wanna Do. I fod yn onest, dwi ddim y ffan mwya' o Sheryl Crow, ond pam ddiawl gwneud cyfyr sydd mor debyg i'r gwreiddiol i wneud unrhyw argraff? Pam Amy!? Reit dwi mynd allan i brynu albym Greatest Hits Cheryl Crow!

Ydych chi ise bod yn seren?
A son am sêr y dyfodol...ydych chi wastad di eise bod yn seren bop - yn perfformio ar Top Of The Pops a chael eich fideo ar MTV? Wel, falle dyma'ch cyfle!

Maer Eidalwr tu ol i gân ddawns fwyaf llynedd Benny Benassi yn chwilio am dalent canu i berfformio ar rhai oi draciau newydd. Hyd yn hyn mae o wedi derbyn demos o Sbaen, Rwsia, Yr Iseldiroedd, America ar Almaen, ond dim o Gymru... felly amdani Gymry ifanc!

Anfonwch eich CDs neu dapiau gyda 2 lun diweddar i:
Off Limits
Via Sessi 8
42100 Reggio Emilia
Eidal

neu ebostiwch eich manylion i info@offlimits-production.it


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.