Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Nes i ddechre gneud rhaglenni radio ar radio ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd pan o'n i'n ryw 15. Cyn hynny o'n i'n gneud tapie o raglenni radio adre ar caset.
Uchafbwynt arall oedd ateb y ffôns i raglen o'r enw Ram Jam a fi oedd Dr Pop ar y rhaglen Gang Bangor am sbel. Pan o'n i'n gneud fy lefel A, nes i gael y swydd o gyd-gyflwyno y Session in Wales gyda Bethan Elfyn ar Radio 1. Erbyn hyn rwy'n cyflwyno ar ben fy hun ar Radio 1. Nes i ddechre cyflwyno rhaglen Nos Sadwrn ar Radio Cymru, a nawr C2.
Record gyntaf i chi brynu?
Albym Crowded House. Do'n i ddim yn gwybod gwell.
Gig gorau i chi fynychu a pham?
Catatonia ym Mhrifysgol Aberystwyth, jyst cyn i International Velvet ddod allan. Gig bach, chwyslyd, prysur a gwych.
Ym mha fand yr hoffech chi fod yn aelod ohoni a pham?
Unai yn backing band Kylie Minogue, Johnny Cash, neu y Beatles.
Eich hoff gân carioci?
Dolly Parton - Nine till Five, er bo fi prin byth yn canu carioci.
Eich arwr/arwres?
Fy arwres ydi Kylie.
Fy arwr ydi Superman.
Be sy'n gwneud i chi grio?
Winwns/Nionod.
Dibynnu os chi'n dod o'r de neu'r gogledd.
A chân gan Nick Cave - Into My Arms, un o'r caneuon fwya' hyfryd a tor-calonnus erioed.
Sut yr hoffech chi gael eich cofio?
Hapus, barfog, onest.
Eich cas gân neu grwp?
Ah, siwr y fod rhywun fel Celine Dion.
Snog cyntaf - disgrifiwch y profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Mewn garej yn y tŷ drws nesa, gyda merch sy' nawr yn briod ag aelod o'r Cynulliad. Allai ddim deud ei henw ond mae'n dechre gydag 'Em' a gorffen gyda 'ily'.
Profiad brysiog, amhleserus.
Tafod hir ganddi.
Posteri o beth, neu o bwy oedd ganddoch chi ar wal eich ystafell wely?
Arfer bod Catatonia, a Divine Comedy. O'n i'n obsessed gyda torri llunie o gylchgronau a papure newydd a sticio nhw ar y wal. A llun o David Copperfield unwaith hefyd, sy' braidd yn rhyfedd wrth edrych nôl.
Beth sydd ar eich waliau erbyn hyn?
Clawr y record Welsh Rare Beat, cardiau post, poster Flaming Lips a Gorky's.
Y peth gwaetha i chi wisgo'n gyhoeddus?
O'n i arfer gwisgo gwasgod wedi ei gwneud o frethyn Cymreig yn aml. Oedd pawb arall yn gwisgo shell suits, ac o'n i yne mewn blydi gwasgod brethyn!
Dathliad gorau erioed?
Neithiwr, bob tro.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

