Advertisement

Hen Bethe Crwn: Brân

Clawr

Mae Dyl Mei o'r Genod Droog a'r cyflwynydd Huw Evans yn dewis rhai o'r recordiau mwyaf dylanwadol o oes aur roc Cymru: 1967 i 1979. Yn y rhaglen hon, maen nhw'n edrych ar gefndir yr albwm Ail Ddechra gan Brân.

Ddim ar yr awyr ar hyn o bryd.

Brân: Ail Ddechra

SAIN 1038 M, 1975

Ffurfiwyd Brân ym 1974 o lwch grŵp roc Cristnogol Arfon Wyn, sef Yr Atgyfodiad. Brân oedd John Gwyn o Fethesda (llais, gitâr a phiano), Gwyndaf Roberts o Lwyngwril (gitâr bas a'r delyn deires), Nest Howells o Gaerwen (llais), a'r diweddar Keith Snelgrove (drymiau).

Roedd gyda John Gwyn tipyn mwy o brofiad na'r gweddill. Roedd e wedi bod mewn pedwar grŵp cyn ymuno â'r Atgyfodiad: The Barton Clay Set, Gate, Headstone a'r Llwch!

Recordiwyd EP ar label newydd Gwawr, oedd yn cynnwys y gân Tocyn a recordiwyd gan Ffa Coffi Pawb rhyw ddau ddeg o flynyddoedd wedyn.

Ym 1975 gadawodd Keith Keith Snelgrove y grŵp, ac yn ei le daeth brawd bach Gwyndaf, sef Dafydd Meirion Roberts, i chwarae'r drymiau, ffliwt a'r delyn Geltaidd. Roedd Dafydd arfer bod mewn grŵp ysgol o'r enw Buarth gyda'i frawd Gwyndaf a Keith Snelgrove.

Enillwyd Cân Disg a Dawn (sef Can i Gymru) ym 1975 gyda Caledfwlch a ysgrifennwyd gan Gwyndaf Roberts.

Ym 1975 daeth rhyfel Fietnam i ben, rhyddhaodd Hergest eu albwm cyntaf sef Glanceri, chwalodd Ac Eraill a ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio ar ben ei hun am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yng Nghricieth.

Ar ôl blynyddoedd o ddefnyddio stiwdios fel Rockfield, TW, Stacey Road ac yn y blaen, agorwyd stiwdio gyntaf Sain, wyth trac, yng Ngwernafalau, Llandwrog, ym mis Mehefin. Ymunodd Hefin Elis â'r cwmni fis wedyn a chynhyrchwyd albwm gyntaf Sidan, Teulu Yncl Sam, Nia Ben Aur ac ail LP Edward H. Dafis sef Y Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw. Dechreuodd cyfnod y record hir fel prif gyfrwng i Sain yn hytrach na'r sengl neu'r EP.

Yr albwm cyntaf a recordiwyd yn ystod Haf 1975 oedd record hir cyntaf Brân, sef Ail Ddechra.

Mae'r albwm wedi magu rhyw fath o statws iconoclastig erbyn heddiw. Chafodd yr album erioed ei ail-ryddhau, ac mae copïau yn newid dwylo ymysg casglwyr am dros ddau gan punt. Enillwyd tipyn o sylw pan ddewisodd Gruff Rhys o'r Super Furry Animals ddwy o ganeuon oddiar Ail Ddechra ar gyfer y casgliad Welsh Rarebeat a ryddhawyd yn 2005 ar label Finders Keepers.

Y peth cyntaf sy'n taro rhywun am Ail Ddechra yw'r llun ar y clawr o hen adeilad adfail a'r brigau coed sy'n sillafu'r enw band a theitl yr albwm. Arluniwyd gan Tim Fryer, myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Bangor a throiodd lan ar ddiwedd yr wythdegau fel drymiwr yn y band Y Blodau Cyntefig o Gwmtawe.

Y ffotograffydd enwog Geoff Charles dynnodd y llun o'r grŵp ar gefn yr albwm. Mae'n dangos Brân ar lwyfan yn perfformio yn Theatr Gwynedd yn ystod y cynhyrchiad Harping Around.

A beth am y gerddoriaeth? Oes 'na uchafbwyntiau?

Mae'r albwm yn dechrau gyda Y Ddôr Ddig, cân bop sydd ddim yn annhebyg i Tocyn. Mae'r tour de force o drac offerynnol Breuddwyd a sgrifennwyd gan Nest Howells yn dangos yn glir ei bod hi'n ffan mawr o'r grwp Focus ar y pryd.

Mae Blodyn rhyw fath o mutant son o Pishyn gan Edward H a Son Of The Father gan Chicory Tip, ond bosib y gân gryfaf ar Ail Ddechra yw Caledfwlch a enillodd Cân i Gymru i'r band.

Fel y dywedais ar dop y darn ma, chafodd Ail Ddechra na unrhywn un o albyms Brân erioed eu ail-ryddhau ar gryno ddisg. Dere mlaen Sain, beth am focs set?

Nyth y Frân? Unrhywun?

Gari Melville

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.