Advertisement

Hen Bethe Crwn: Endaf Emlyn

Huw a chlawr Hiraeth

Mae Dyl Mei o'r Genod Droog a'r cyflwynydd Huw Evans yn dewis rhai o'r recordiau mwyaf dylanwadol o oes aur roc Cymru: 1967 i 1979. Yn y rhaglen hon, maen nhw'n edrych ar gefndir yr albwm Hiraeth gan Endaf Emlyn.

Ddim ar yr awyr ar hyn o bryd.

Endaf Emlyn: Hiraeth

Recordiau Dryw C. 1973 (WRL 537)

Gwranda ar ddarn o'r sgwrs gydag Endaf Emlyn

Brodor o Bwllheli, fe anwyd Endaf Emlyn Jones ym Mangor ym 1944. Magwyd mewn teulu cerddorol; roedd ei dad yn aelod o fand pres chwarel Nantlle, ac roedd Shân, ei chwaer, yn gantores canu gwerin. Ymunodd â Cherddorfa Ieuenctid Cymru tra yn yr ysgol, ar yr un pryd â John Cale a Karl Jenkins.

Ar ôl gadael ysgol hyfforddodd fel athro yng Nghaerdydd ond penderfynodd ymuno â'r BBC fel cyhoeddwr. Ffurfiwyd ei grŵp cyntaf, Yr Eiddoch Yn Gywir, tua 1969 gyda Hywel Gwynfryn a'r diweddar John Boote. Yn ystod y cyfnod yma ysgrifennodd y gân Y Fo i grŵp newydd Meic Stevens, Y Bara Menyn.

Ymunodd â chwmni cyhoeddi Tony Hatch, M&M, yn Llundain a rhwng Tachwedd 1971 ac Ionawr 1973 rhyddhawyd tair sengl ar label Parlophone. Roedd gobeithion mawr am ei sengl gyntaf Paper Chains ac roedd son bod Tony Blackburn wedi ei dewis fel sengl yr wythnos ar ei sioe ar Radio 1. Yn y pendraw, ni chyrhaeddodd y siartiau ond recordiodd Jim Dale, seren y ffilmiau Carry On, fersiwn o Paper Chains ar ei albwm This Is Me ym 1973.

Beth oedd yn bwysig am ei sengl gyntaf oedd y ffaith fod Endaf Emlyn wedi sgrifennu cân yn y Gymraeg ar yr ochr arall. Teitl y gân oedd Madryn, a recordiwyd yn stiwdio byd enwog Abbey Road gyda cherddorfa.

Erbyn hyn, roedd Endaf yn cydweithio gyda cherddor oedd hefyd yn rhan o stabl Tony Hatch, sef yr aml-offerynnwr a chyfansoddwr Mike Parker. Arhosodd gydag Endaf am ei bedwar albwm cyntaf: Hiraeth, Salem, Melltith Ar Y Nyth (gydag artistiaid eraill) a Syrffio Mewn Cariad.

Mike Parker hefyd oedd cynhyrchydd albwm cyntaf Edward H. Dafis, Hen Ffordd Gymreig O Fyw.

Rhyddhawyd dwy sengl arall gan Parlophone: All My Life / Cherry Hill a Starshine / Where Were You?, ond methiannau masnachol oedd y rhain unwaith eto.

Ym 1972, fe ddaeth y cyfle unwaith eto i gydweithio gyda Meic Stevens, a sgrifennwyd Traeth Anobaith. Trwy gysylltiadau Meic gyda chwmni Recordiau Dryw, fe ddaeth y cyfle i recordio ei record hir gyntaf, sef Hiraeth.

Recordiwyd yr albwm mewn gwahanol sesiynau yn stiwdios Dryw yn Abertawe a stiwdio gartref Endaf yng Nghaerdydd. Cymysgwyd yn stiwdio Rockfield ger Trefynwy a chynhyrchwyd gan Mike Parker, sydd hefyd yn chwarae'r piano ar yr albwm.

Dewiswyd cerddorion oedd ar lyfrau cwmni Tony Hatch: Bob Wackett, cyn-aelod o'r Cyril Davies R&B All Stars a band Dusty Springfield, a Mike Thorn ar y bas, aeth mlaen wedyn i fod yn aelod o fandiau David Essex a Charles Aznavour.

A beth am y gerddoriaeth? Wel, mae 'na addasiadau o ganeuon gan Randy Newman - Living Without You (sef Hiraeth) - ac Elton John - Goodbye (sef Mi Ddof Yn Ôl). Am ryw reswm dyw'r gân ola ddim yn ymddangos ar focs set diweddaraf Endaf Emlyn ar label Sain (Dilyn Y Graen) nac ychwaith Mynd I'r Dre'. Mae'n biti mawr, achos mae Mynd I'r Dre' yn un o uchafbwyntiau'r albwm. Mae'n gân fywiog, ac yn fy atgoffa o steil y Beatles cyfnod Rubber Soul, gyda thipyn o Slade wedi taflu mewn i'r mics.

Mae'r trefniant o Lisa Lân yn hyfryd, ac yn fy marn i yn dangos dylanwad Meic Stevens, ac mae Madryn yn well hyd yn oed na'r fersiwn a recordiwyd yn Abbey Road.

Ar y cyfan, mae Hiraeth yn albwm werth chweil, a gyda Gwymon yn ddwy o recordiau hir Cymraeg mwyaf pwysig dechrau'r saithdegau.

Gari Melville

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.