Mae'r dyddiau'n ymestyn, y tywydd yn gwella... i fod, ac arogl gwair yn yr awyr - mae'r haf wedi cyrraedd, sydd yn golygu un peth - llwythi ar lwythi o wyliau cerddorol gwych!
Dim ots pa ran o Gymru yr ydych yn byw ynddo, na pha fath o gerddoriaeth yr ydych yn ei hoffi - mae rhywbeth at ddant pawb yng ngwyliau cerddorol Cymru.
Gwyliau 2009:
Lluniau, adolygiadau, manylion... fuest ti yn un o'r gwyliau eleni? Anfon dy luniau neu adolygiad i c2@bbc.co.uk
Gwyl Gwydir
Lle: Clwb y Legion, Llanrwst
Pryd: Medi 11-12
Prif fandiau: I'w cadarnhau yn fuan...
Mwy o fanylion: Calendr Gigs C2
Wâ Bala
Lle: Ar y Grîn, Bala
Pryd: Medi 11-13
Prif fandiau: Sibrydion, Bryn Fôn a'r Band, Derwyddion Dr Gonzo, Steve Eaves a'i Fand, Mr Huw, Elin Fflur, Gai Toms, Huw Chiswell, Cinetica.
Mwy o fanylion: www.wabala.co.uk/
Blysh
Lle: Bae Caerdydd
Pryd: Medi 17-26
Prif fandiau: Derwyddon Dr Gonzo, Pland Duw, So & So Circus, Bourgeois & Maurice, Scaramouche Jones a llawer mwy
Mwy o fanylion: Calendr Gigs C2
Gwyliau 2009 sydd wedi bod:
Lluniau, adolygiadau, manylion... fuest ti yn un o'r gwyliau eleni? Danfona dy luniau neu adolygiad i c2@bbc.co.uk
Gwyl Fai Antur Waunfawr
Lle: Antur Waunfawr ger Caernarfon
Pryd: Mai 2
Prif fandiau: Sibrydion, Gai Toms, Drymbago, Gwibdaith Hen Fran, Meinir Gwilym a mwy
Mwy o fanylion: www.anturwaunfawr.org
Castell Roc
Lle: Castell, Aberystwyth
Pryd: Mai 30
Prif fandiau: Cerys Matthews, Racehorses, Get Out Clause
Mwy o fanylion: www.castellrock.co.uk
Gwyl Maldwyn/Gwyl Cann Offis
Lle: Gwesty'r Cann Offis, Llangadfan
Pryd: Mehefin 5-7
Prif fandiau: Gwibdaith Hen Fran, Wyrligigs, Geraint Lovgreen, Bryn Fôn, Aveldro (Llydaw)
Mwy o fanylion: Cann Offis 01938 820202
Lluniau Steffan Harri o Wyl Cann Offis '09
Bedroc
Lle: Beddllwynog, Merthyr Tudful
Pryd: Mehefin 19-20
Prif fandiau: Tebot Piws, Meic Stevens, Huw Chiswell, Eitha Tal Ffranco, Yucatan, Plant Duw, Al Lewis Band, Jess, Gwibdaith Hen Fran, Y Diwygiad, Brigyn
Mwy o fanylion: www.cymdeithasgymraegbeddllwynog.co.uk
Tân Tanat 2009
Lle: Cae Sioe Penybontfawr & Tafarn y Railway, Penybontfawr
Pryd: Mehefin 19 - 20
Prif fandiau: Bryn Fôn, Gwibdaith Hen Fran, Vanta, Al Lewis
Mwy o fanylion: Elliw/Del ar 01691 860293/791281
Gwyl Cefni
Lle: Canol Tref Llangefni
Pryd: Mehefin 20
Prif fandiau: Racehorses, Sibrydion, Brigyn, Steve Eaves, Chwarter Call, Lacwna
Mwy o fanylion:
Gwyl Nôl a Mla'n
Lle: Y Llong a'r Pentre Arms, Llangrannog
Pryd: Mehefin 20
Prif fandiau: Meic Stevens, Fflur Dafydd a'r Barf, Cerrig Melys, Lowri Evans, Radwm, Karak, Fat Spanners a mwy
Lluniau Alun Bonello o Wyl Nôl a M'lan
Gwrando ar adolygiad Alun o'r wyl ar raglen Magi
Gwyl Pentre Coll
Lle: Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Penllyn
Pryd: Mehefin 27
Prif fandiau: Steve Eaves, Tecwyn Ifan, Bob Delyn, Yucatan, Mr Huw, John Lawrence, Gwilym Morus a mwy
Mwy o fanylion: Calendr Gigs C2
Gweld lluniau Megan Llŷn o Ŵyl Pentre' Coll .
Gwrando ar adolygiad Megan o'r wyl ar raglen Magi
Gwyl Bro Dinefwr
Lle: Fferm Glangwenlais, Cil-y-Cwm (ger Llanymddyfri)
Pryd: Gorffennaf 3 - 4
Prif fandiau: Sibrydion, Jess, Elin Fflur, Celt, Tebot Piws, Cowbois Rhos Botwnnog
Mwy o fanylion: www.menterbrodinefwr.org
Gweld lluniau Swyn Davies o Ŵyl Bro Dinefwr .
Gwyl Rhuthin
Lle: Amrywiol leoliadau yn nhref Rhuthin
Pryd: Gorffennaf 3 - 4
Prif fandiau: Daniel Lloyd a Mr Pinc, Fflur Dafydd a'r Barf, Gwibdaith Hen Frân, Dr Jazz, Hungarian Shamanic Drummers, Band Tref Rhuthun
Mwy o fanylion: www.ruthinfestival.co.uk/
Wakestock 2009
Lle: Abersoch, Penllyn
Pryd: Gorffennaf 10-12
Prif fandiau: Super Furry Animals, Moby, The Zutons, Calvin Harris, Dizzee Rascal, Just Jack, NERD, Nosettes, Pigeon Detectives, Sibrydion, Yr Ods, Joy Formidable, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Promatics...
Mwy o fanylion: www.wakestock.co.uk
Penwythnos Mawr Pontypridd
Lle: Parc Ynys Angharad, Pontypridd
Pryd: Gorffennaf 18-19
Prif fandiau: Sugababes!
Mwy o fanylion: www.pontysbigweekend.co.uk
Cenhedloedd Bychain am Byth
Lle: Gwesty'r Castell, Llanymddyfri
Pryd: Gorffennaf 18
Prif fandiau: Yucatan, Sendelica, Dapper Cadavers
Mwy o fanylion: www.smallnations.co.uk
Pentref Ieuenctid, Sioe Frenhinol Cymru
Lle: Llanelwedd
Pryd: Gorffennaf 19-22
Prif fandiau: Goldie Lookin Chain, Gwibdaith hen Fran, Your Mum, Soul'd Out, DJ Dave Pearce, Fushanti
Mwy o fanylion: Gwefan Clwb Ffermwyr Ifanc
Gwyl y Sgwar / The Square Festival
Lle: Borth (ger Aberystwyth)
Pryd: Gorffennaf 24-26
Prif fandiau: Supergrass, Derwyddon Dr Gonzo, Race Horses, Threatmantics, Masters In France, Yr Ods, Convoi Exceptionnel, Joy Formidable,
Mwy o fanylion: www.thesquarefestival.com
Y Ffîn
Lle: Maes Chwarae'r Rec, Yr Wyddgrug
Pryd: Gorffennaf 25-26
Prif fandiau: Sibrydion, Derwyddon Dr Gonzo, Race Horses, Y Promatics, Meilir, Nia Morgan, John Lawrence, Ed Holden
Mwy o fanylion: www.yffin.co.uk
Maes B, Eisteddfod Genedlaethol y Bala
Lle: Maes B, Bala
Pryd: Awst 1-8
Prif fandiau: Derwyddon Dr Gonzo, Racehorses, Sibrydion, Dafydd Iwan, Bryn Fon a'r Band, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ods, Gwibdaith Hen Fran, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Y Diwygiad, Plant Duw, Cate Le Bon
Mwy o fanylion: Gwefan Maes B
Gigs Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod Genedlaethol y Bala
Lle: Pabell Tafod, ger y Ganolfan Hamdden, y Bala
Pryd: Awst 1-8
Prif fandiau: Bob Delyn, Sibrydion, Gwibdaith Hen Fran, Derwyddon Dr Gonzo, Dafydd Iwan, Meic Stevens, Heather Jones, Gai Toms, Cowbois Rhos Botwnnog, Geraint Lovgreen, Gwyneth Glyn, Dan Lloyd a Mr Pinc, Brigyn, Flur Dafydd, Mr Huw, Gareth Bonello, Eitha Tal Ffranco, Al Lewis, Yr Ods,
Mwy o fanylion: Gwefan Cymdeithas yr Iaith
Pesda Roc
Lle: Clwb Rygbi, Bethesda
Pryd: Awst 15
Prif fandiau: Sibrydion, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Promatics, Bob, y Wyrligigs
Mwy o fanylion: Calendr Gigs C2
Chwilgig '09
Lle: Tafarn y Madryn, Chwilog
Pryd: Awst 28-31
Prif fandiau: Bryn Fôn, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Gai Toms, Maffia Mr Huws, Yr Ods, Huw Chiswell, Geraint Lovegreen,
Gwibdaith Hen Frân, Chwarter Call a llawer mwy!
Mwy o fanylion: Grwp Chwilgig ar Facebook
Gŵyl Gopr Amlwch
Lle: Y Parc, Porth Amlwch, Ynys Môn
Pryd: Awst 28-30
Prif fandiau: Bryn Fôn a'r Band, Midge Ure, Race Horses, Meic Stevens, Steve Eaves, Celt, Y Wyrligigs
Mwy o fanylion: www.gwylgopr.co.uk
Llanffest
Lle: Fferm Tyn Llwyfan, Llanfairfechan
Pryd: Medi 5
Prif fandiau: Celt, Mr Huw, Masters in France, Rhian Mostyn
Mwy o fanylion: Calendr Gigs C2
Pan fydd gwyliau'r haf ar ben, peidiwch a digaloni - mae llwythi o gigs yn cael eu cynnal led-led Cymru dros y misoedd i ddod - i'ch cadw i fynd tan yr haf nesa!
Ewch i'r adran gigs i weld y cyfan!
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefannau allanol y cysylltir iddynt.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

