Helo rhywbeth newydd, ffarwel rhywbeth hen

Emyr Glyn Williams

Mewn cyfres o bedwar rhaglen arbennig, bydd Emyr Glyn Williams yn cymryd siwrne bersonol drwy hanes cerddoriaeth Gymraeg rhwng y ddau refferendwm datganoli - 1979 i 1998.

Not found

Ar yr awyr nesaf: Dydd Gwener, 6 Meh 2008, 21:00-21:45


  • Pop Negatif Wastad - Helo Rhywbeth Newydd

Helo. Croeso i'r drydydd rhaglen yn y gyfres 'Oh Na i Yeah Yeah Yeah'. Fy enw i ydi Emyr Glyn Williams, a bwriad y gyfres fer yma o raglenni radio yw ceisio taro golwg bersonol yn nol ar y recordiau roc a ryddhawyd yn Nghymru rhwng y ddau refferenwm yn 1979 a 1997, gyda'r bwriad o geisio darganfod, os yn bosib, be' ddigwyddodd i newid y NA yna nol yn 79 i'r IE yna yn 97.

Heno, fe fyddwn ni yn trin a thrafod dyfodiad b'e dwi'n ei alw'n "Sin Roc Kaleidosgopic" - cyfnod diwedd yr wythdega' i ddechra'r nawdega' lle ma'r sin post-pync yn dod i ben, a'r oes ddawns yn cymryd drosodd.

Ar y pryd dwi'n gweithio fel ymchwilydd ar y rhaglen pop Fideo 9 ar S4C yn ogystal a rhedeg cwmni recordiau Ankst, ac yn y cyfnod yma dwi'n teimlo fel rhywun sydd wedi cael ei ddal yn nghanol corwynt o greadigrwydd cerddorol.

Yn ol fy nyddiadur o'r cyfnod, mewn llai na tair mlynedd 'da ni'n creu fidios efo bron i gant a hanner o grwpie roc ar y rhaglen, rhan fwya' o rheini yn fandia' newydd - yn ogystal a llwyddo i ryddhau cyfres o albyms gan grwpie fel Y Cyrff , Ffa Coffi , Ty Gwydr, Datblygu ac eraill trwy y label recordiau.

Mae'r holl weithgaredd yma'n meddwl fod y broses o edrych yn ol yn rhywbeth o 'blur', ond fel'na oedd i ar ddechra'r nawdega' -

teimlad fod na lwyth o bosibliada', bob math o betha' newydd yn bosib - petha' yn symud tu allan i'r norm arferol ar gyfer y celfyddydau, adloniant , Cymru a gwleidyddiaeth.

Cyfnod lle mae artistiaid hen a newydd, mor amrywiol a Jess, Datblygu, Sobin, WWZZ, Jecsyn Ffeif, Johnny R, Hanner Pei, Crumblowers, U-Thant, Steve Eaves, Fflaps a Ffa Coffi, a dwsine fwy, i gyd yn medru perffomio, recordio a darganfod a dal sylw cynulleidfa oddi fewn i Gymru.

Wrth gwrs, be' dwi'n ei brofi ydi y sin yn Nghymru yn ymateb i egni a dyfeisgarwch cyfnod y sin tanddaearol, ac yn ffynnu mewn ffordd 'exponential', hefo datblygiada yn ymestyn i bob cyfeiriad.

Ma' y cyfnod yma hefyd yn rhyw fath o gyfnod 'catchup', hefo'r cyfryngau yn Nghymru i ryw radda' yn 'overcompensatio' am fethu a cefnogi y sin tanddaearol o'r cychwyn cynta.

Yn y cyfnod yma, 'da ni yn cael dau gyfres bop i adlewyrchu y sin - Fideo 9 gan Criw Byw a Y Bocs gan y BBC. Hefyd, ma Radio Cymru o'r diwedd yn sylweddoli fod radio yn gyfrwng i bobl ifanc, ac yn creu y rhaglenni nos Hwyrach, hefo unigolion gyda chwaeth gerddorol gwbl newydd fel Nia Melville a Huw 'Bobs' Pritchard.

Ma'r sylw yma yn wych ac yn hollbwysig, ond i fod yn onest dwi'n credu fod lot o'r gefnogaeth yma yn dod i'r grwpie achos fod y grwpie yma wedi llwyddo i gael sylw i'w cerddoriaeth tu allan i Gymru, gan bobl fel John Peel, The Tube a'r NME.

Ma hyn yn hen broblem efo diwylliant Cymraeg - y munud ma'r diwylliant tu allan i Gymru yn gweld gwerth mewn rhywbeth Cymraeg, mae hi wedyn yn ok i ni yma yn Nghymru i ddeud fod o'n dda a gwerth cael sylw.

Efo'r nifer anferth o grwpie sy' wrthi, ma'r sin hefyd yn cael ei normaleiddio - ma'r pwyse i gydymffurfio efo unrhyw cliques neu bod yn wleidyddol saff yn diflannu hefyd - gan fod y sin ei hyn wedi tyfu i fod yn lot rhy fawr a 'varied' i fedru cael ei arwain gan unrhyw fudiad, label neu ymgyrch wleiddyddol.

Erbyn hyn, fe ddylse chi wybod fod gwleidyddiaeth i mi, yn benna, yn fwy i wneud efo petha yn newid yn hytrach na ymgyrchoedd neu gofynnion mwy explicit y gân brotest.

Yn y cyfnod yma mae 'na dal strand gry' o'r diwylliant sy' dal i gredu yn effeithiolrwydd y gân brotest.

Ac yn y cyfnod yma 'da ni'n cael tracie "Hi Concept" fel 'A Oes Heddwch' gan Brith Gof, agitpop traddodiadol fel Affikaners y Gymru Newydd gan Steve Eaves, trac subversive a chwareus fel Fydd Y Chwyldro Ddim Ar Y Teledu, Gyfaill gan Llwybr Llaethog ag Ifor ap Glyn, yn ogystal a cut-ups ymfflamachol fel Wal Bryn Fon a Parti Butane gan A5, a un o fy ffefryna i o'r cyfnod - 'Torri'r Sgrin' - trac cymunedol provincial, it could only have come from Welsh Wales.

Cân a oedd yn protestio am benderfyniad S4C i ddileu Y Sgrin Roc, sef y gwasaneth gwybodaeth ar Teletext ar gyfer dilynwyr y sin roc. Rhywbeth tebyg i fersiwn gyntefig iawn o'r internet.

Ma'r gân yn dod ac amryw o bersonoliaetha' o'r sin roc gyda'i gilydd a la Band Aid i greu record sy'n eitha comedic efo' rants am executives S4C yn torheulio ar ei yachts yn Cannes, tra fod y cerddorion druan yn dioddef nol yn Nghymru.

Be' sy'n wir wleidyddol bwysig oddi fewn i'r sin yw y ffordd ma petha'n newid.

Ma' hi'n bosib gweld hyn trwy edrych ar grwpie fel Ty Gwyr a label RBennig.

Ma'r gerddoriaeth newydd wedi cyrraedd erbyn ddechra'r nawdega' - mae'r twf post pync wedi dod i ben a cerddoriaeth sy'n seliedig ar 'the tyranny of the beat' wedi cyrraedd.

Cerddoriaeth sy'n chwyldroadol gan ei fod o'n newid y berthynas rhwng y gynulliedfa a'r artist yn gyfangwbl - mae'r weithred o ddawnsio i'r gerddoriaeth yn dod yn rhan allweddol o'r holl equation - 'if it don't make you dance then it ain't music'.

Ma'r elfen 'functional' yma yn rhywbeth sy'n cymeryd lle yr hen drefn o eilyn addoli y cantorion pop a'u trin nhw fel duwie -rhywbeth hollol functional yn cymeryd lle ymateb emosiynol y gynulleidfa - symud yn lle meddwl a breuddwydio.

Mae'r pwyslias yma ar y llawr dawns yn llwyddo i ddemocratieddio'r genhedlaeth newydd yma, a disodli y perfformiwr fel pinacl y diwylliant - cyn hir y DJ efo'i allu i ddewis a cymysgu recordiau pobl eraill fydd y perfformiwr mwya pwysig y cyfnod - ma'r dyfodol yma i'w glywed ar drac chwareus fel Popeth Ar Y Record Yma Wedi Cael Ei Ddwyn - oddiar Be gan Llwybr Llaethog sy'n dod allan ar label Concrete Records yn 1990.

Ma'r newid sy'n digwydd yn agor y gerddoriaeth allan ymhellach na jest y perfformiwr a'r gân - ma'r holl package yn dechra' bod yn holl bwysig.

Mae Ty Gwydr yn 1990 gyda'r record Yr Unig Ateb yn ceisio creu record fodern sy'n adlewychu yr holl elfennau o'r diwyliant newydd yma - Feinyl 12" modfedd, break-beats yn cael eu cynnwys yn ychwanegol i'r caneuon, logos, dillad, delwedd a ffasiwn yr un mor bwysig a'r record - a cyngherddau gan y grwp yn bendant yn fwy o brofiad clwb nos na gig roc...Er fod cynnwys y caneuon ar y record yma yn explicitly gwleidyddol, dim yn geiria' sy'n dangos fod petha yn newid.

Tra fod Rbennig yn creu rhywbeth gwbl spiky ac unigryw sy' weithie mwy fel musical reportage lo-tech na traciau arferol, caneuon swreal sy'n defnyddio samples a cut ups, a'r dechnoleg newydd mewn ffordd eitha mental i fod yn onest, ond rhwybeth sy'n dangos fod cerddoriaeth yn torri yn rhydd o unrhyw rwystredigaeth neu confensiynau o'r gorffennol yn y cyfnod yma.

Ma'r datblygiad electroneg yn creu oltyrnatif i'r bandie guitar + drums + bass yr hen oes roc. Tydi'r grwpie efo gitars ddim yn diflannu wrth gwrs - ma grwpie fel Crumblowers, Ffa Coffi a Y Cyrff i ryw radda' yn cymeryd sylw o be' sy'n digwydd, yn enwedig efo grwpie fel y Stone Roses a'r Happy Mondays, sy'n dangos sut ma hi'n bosib i grwpie roc addasu i'r oes newydd ma.

Hefyd oddi fewn i'r sin mae 'na dal elfen gryf a chadarn sy'n atgyfnerthu symylwrydd a phwer y grwp roc traddodiadol, hefo grwpie fel Anhrefn, Fflaps a Uthant yn bodli fel rhan o'r indie sin Prydeinig ac yn rhannu llwyfanna' gyda grwpie cynnar y sin grunge . Yn 1990 mae Nirvana ar y gorwel ac mae record fel Malltod gan y triawd Fflaps yn ymddangos.

Ma' hon i mi yn un o'r recordiau gore i ddod allan o'r sin yn Nghymru am wahanol resymau - un o'r rhesymau yw iddi hi ddod drosodd fel record sy' ddim mewn dyled i unrhywbeth o'r diwylliant Cymraeg o gwbl - ma'r iaith yn amherthnasol i'r diffiniad ohoni fel record, ma'r llais a'r chwara' tanllyd yn un peth gwahanol arallfydol sy'n creu record sy'n glasur ac yn one off.

Hefyd ma hi'n cynnwys ochr wleidyddol - gan fod y caneuon yn trin, ymsyg pyncie eriall, y byd yn newid, wel Ewrop yn newid, caneuon am Caecescu yn Romania, hela'r blaidd yn Norwy, record sy' wedi cael ei greu ar ol i'r band deithio allan o Gymru drwy'r Ewrop hen a newydd a profi petha' cyn ac ar ol i wal Berlin gael ei ddymchwel.

Er fod recordiau fel Yr Unig Ateb gan Ty Gwydr yn 'explicitly' gefnogol i fudiad fel Cymdeithas Yr Iaith, mae'r sin yn gyffredinol wedi datblgyu ers y chwedega i'r pwynt lle ma cerddorion Cymraeg y sin 'efo diddordeb mewn miwsig yn gynta' yn hytrach na gwleidyddiaeth - fel ma Llwybr Llaethog yn deud ar DA - Huw Jones a Dafydd Iwan, iawn yn y sixties ond dim rwan'.

Mae'r newid yma i'w weld yn glir efo cyngerdd anferth Rhyw Ddydd,Un Dydd sydd yn digwydd yn Mhafililwn Pontrhydfendigaid yn mis Rhagfyr 1991.

Yn syml, mae'r mudiad pwyse CYIG wedi rhedeg allan o bres ac mae 'na rhyw fath o gig Iaith Aid yn digwydd efo dros 20 o grwpie ac artistiaid Cymru yn dod at ei gilydd i chwara am ddim i godi arian.

Yn sicr ma hwn yn rhwy fath o gydnabyddiaeth fod rol y gymdeithas wedi bod yn allweddol ond hefyd mae 'na doriad yn digwydd yn y berthynas rhwng y ddau.

O hyn allan 'da ni'n gweld fod y cerddorion a'r gerddoriaeth yn medru sefyll ar eu traed eu hunain, heb angen cael y 'rebel cachet' er mwyn bod yn 'valid' a cael rheswm gwleidyddol dros fodoli - it can exist because it exists not because it forms part of a wider political movement or campaign.

Tydi'r mudiad ddim yn medru hawlio unrhyw awdurdod i arwain y sin o hyn allan.

Un peth pwysig arall sy'n digwydd efo'r sylw ar y cyfryngau yw fod y gynulleidfa a'r grwpie yn mynd yn iau.

Mae cael grasp ar y sin trwy dwndish rhaglenni teledu yn creu ffocws unwaith eto i'r gynulledifa ochr arall i'r sgrin deledu, a mae 'na ffordd i fewn yn agor allan i'r holl fyd cerddoriaeth yma i'r genhedlaeth newydd.

Mae access yn un o'r concepts gwleidyddol mwya' pwysig - y munud mae pobl yn teimo yn rhwystredig neu fel eu bod nhw yn cael eu cadw allan, ma' 'na bwyse yn tyfu i orfodi'r holl system i newid yn dechra tyfu.

Hefyd, gan fod y sin y mynd yn fwy ifanc, tydi hi ddim yn boenus pan ma'r oes pync yn dod i ben a'r 'beat' y cymeryd drosodd.

Yn bwysig iawn mae'r gerddoriaeth newydd ifanc yma yn llai confrontational ac yn fwy masnachol - hefo grwpie fel Beganifs, Aros Mae, Hanner Pei a chyn hir y Gorkies yn rhyddhau cerddoriaeth pop bendigedig.

Hefyd mae'r ochr dechnegol yn dechra effeithio ar yr ochr wleidyddol - mae'r 'means of production' yn dod o fewn gafael yr ifanc, gyda samplers a home studios etc.. does na ddim angen cael grwpie traddodiadiol er mwyn creu records, yn wir does ddim angen hyd yn oed cael stiwdios - ma'r term nawddoglud - bedroom studio - yn cael ei droi ar ei ben a'i fabwysiadu fel 'badge of honour' gan y ton newydd yma o fobl creadigol sy'n gweithio yn Nghymru.

Mae 'na gymaint o wahanol betha yn digwydd ar yr un amser yn y cyfnod yma - creadigol a diwylliannol - be sy'n wir yn digwydd ?

A oes na fodd i weld darlun clir ? Well I'll give you my take on it.

I mi, mae 'na ddau begwn ar waith oddi fewn i ddiwylliant trwy'r amser - yr unigolun a'r dorf.

Mi fedrwn ni weld y sin tanddaearol yr 80'au fel yr unigol, yr avant garde os liciwch chi - yr unigolyn efo'i negesuon unigryw, idiosyncratic a cerddoriaeth arbrofol - symudiad sy ddim yn 'inclusive' rhywbeth sydd i'r gwrthyrch - selective a cliquey.

Ond be sy'n digwydd nesa yw diwylliant uwaith eto yn bod yn hollol inclusive - mae'r inclusiveness yma i'w wneud hefo dyfodiad y diwylliant rave ac ecstacy, a cherddoriaeth electroneg functional sy'n symud o'i wreiddiau yn y tanddaearol i fewn i ganol y mainstream.

Mae dyfodiad y cyffur ecstacy a holl amrywiaeth cerddoriaeth dawns - baggy,tecno,house yn denu mwy a mwy o bobl i fewn i'r diwylliant roc a pop, cymaint o bobl nes fod y diwylliant roc a pop arferol yn cael eu gymeryd drosodd yn llwyr, a'i ail enwi yn ddiwylliant dawns erbyn 1991.

Ma' hyblygrwydd a 'fecundity' y sin yma yn meddwl fod hi'n amhosib i un ffordd o feddwl neu un ffordd o fyw fod yn bwysicach na unrhyw ffordd arall o fyw - petha'n llawer mwy horizontal yn hytrach na ymestyn i fyny neu lawr.

Yn ol Mathew Collin yn ei lyfr hanes am y cyfnod yma 'Altered State' - mae o'n deud 'it was a culture with options in place of rules' - ac oddi fewn i Gymru, lle ma'r diwylliant wedi cael ei reoli gan elfennau o'r byd gwleidyddol mae'r newid hyn yn cael ei weld yn glir.

Yn y cyfnod yma mae Margaret Thatcher yn diflannu hefyd.

Yn ol David R.Edwards o'r grwp Datblygu ar ei gampwaith poenus 'Libertino', mi oedd yr 1980 fel 'holocaust seicolegol', ac ma' legacy oes Thatcheriaeth yn rhywbeth sy'n holl bwysig i ni ddelio efo wrth geisio dadansoddi be sy'n digwydd.

Hwn oedd y cyfnod lle ma'r byd gwleidyddol unwaith ac am byth yn torri cysylltiad efo'r person cyffredin - 'da ni'n byw trwy ganlyniad y rhwyg yma heddiw yn yr unfed ganrif ar ugain. 'Da ni'n sylweddoli wrth i oes Llafur Newydd ddod i ben fod y person cyffedin a'r gwleidydd yn fwy alienated nag erioed oddiwrth ei gilydd.

Be oedd Thatcheriaeth ta ?

Cwestiwn ffasiynol iawn yn 2009.

Yn debyg i'r diwrnod pan saethywd Kennedy yn farw dwi'n cofio diwrnod ola Thatcher - mi oedden ni yn saethu fidio lawr yn nociau Caerdydd gyda Meic Stevens - cân am gymeryd asid ar ben blog o fflatia - ac mae 'na rai sy'n son deud fod Meic yn berson anodd i weithio efo - ar y diwrnod yma dwi'n medru bod yn hollol onest a deud fod o'n hapusach na dwi erioed wedi weld o o'r blaen - mi oedd Meic mor hapus a gweddill Cymru ar y diwrnod yna - cenedl gyfa' yn medru dechra breuddwydio fod hunllef oes y Toriaid yn dechra dod i ben.

Mi oedd dyfodiad John Major yn rywbeth nad oedd bron neb yn ei gymeryd o ddifri - dyma ddyn a oedd yn deud trwy'r amser - "nothing will change" - hyn mewn cyfnod lle roedd pawb yn gwybod fod petha'n newid o eiliad i eiliad.

Mae oes Thatcher wedi llwyddo i ddrychu cymdeithas yn llwyr, i'r pwynt lle mae 'collective activity' yn cael ei weld fel rhywbeth negative a hunanol, ac 'individual enterprise' yn cael ei glodfori fel rhwybeth positif, heroic.

Mae 'na ansicrwydd ym mhobman, swyddi a hawlie yn diflannu, rich getting richer - yr un hen stori medde chi.

Ond ma'r diwylliant cerddorol neu'r 'ecstacy culture' yn llenwi'r blwch sy' wedi agor - mae'r genhedlaeth newydd yma yn medru dod at eu gilydd a chynnig ffordd o fyw sy' tu allan i'r system wleidyddol - ma' poblogrwydd y raves olternatif a'r gerddoriaeth newydd yn ddigon o fygythiad i'r drefn nes fod y Toriaid yn ceisio anghyfreithloni 'repetitive beats' y rhyddmau tecno efo deddfau gwlad - syniad gwallgof.

Ond toes 'na ddim byd yn para am byth, ac mi fydda'r teimlad chwyldroadol nautriol yma yn anochel ddod i ben wrth i'r system gyfalafol gymeryd drosodd unwaith eto, 'r rhyddid a oedd yn gysylltiedig a'r 'raves' gael ei sbaddu wrth i'r diwlylliant gael ei drechu a symud i fewn i'r clybiau nos traddodiadol ar y stryd fawr.

Allan o'r caeau i fewn i galon y bwystfil.

Unwaith eto da ni'n gweld fod y bunt yn dy boced yn bwysicach na'r gân yn dy galon.

Ta waeth am hyn, mae hi'n bwysig cofio fod y sin 'rave' yn rhywbeth a oedd yn cael ei reoli gan yr ifanc - toedden nhw ddim yn rhan o'r hen drefn, ddim yn rhan o'r hen system wleidyddol - chwa o awyr iach yn sicr.

Cenhedlaeth a oedd yn meddwl fod o'n bwysig gofyn oes oedd y gerddoriaeth yn mynd i wneud i ti ddawsio yn hytrach na gofyn os oedd y gerddoriaeth yn mynd i wneud i ti feddwl neu gweithredu.

Er fod hi'n wir i ddweud fod y cyfnod yma yn gweld lot mwy o ddawnsio na meddwl yn digwydd - anodd yw hi i fod yn feirnadiol gan gofio teimlad mor dda oedd hi i brofi egni newydd yn bodoli ym mhobman.

Mae'r egni yma yn ddigon i berswadio fi fod yna werth mewn trio datblygu label recordiau Ankst fel busnes llawn amser.

Ma'r hyder sy'n dod o'r cyfnod yma yn ddigon i wneud i ni gredu fod yna werth mewn cymeryd y grwpie gore' o Cymru a'u cefnogi nhw, a thrio cael y miwsic gwych yma allan i weddill y byd.

Proses sy'n arwain i ddyfodiad 'Cool Cymru' a hefyd dwyieithrwydd yn cael ei normaleiddio fel rhan o'r sin gerddorol yma yn Nghymru.

Ond cyn y bydd hyn i gyd yn medru digwydd, mae'n rhaid ffarwelio ar fwy o hen betha.

Ar ddechra'r nawdega mae 'na genhedlaeth o gerddorion a grwpie Cymraeg yn dod i ben - grwpie fel Y Cyrff, Crumblowers, Fflaps, Ffa Coffi Pawb - grwpie sy'n ymhen blwyddyn neu ddau yn ail ymddanogos efo enwau newydd a steil dwyiethog.

Pam fod hyn yn digwydd ?

Y rheswm yn syml yw fod Cymru yn wlad a diwylliant rhy fach.

Lle ma grwpie efo'r dyhead i llwyddo, datblygu a thyfu yn greadigol i fynd unwaith ma' nhw wedi cyrraedd y brig oddi fewn i'r byd Cymraeg ?

Unwaith ma'r grwpie yma yn ail ymddangos, mae nhw yn benderfynnol o geisio cael gyrfa allan o'r gerddoriaeth mae nhw'n creu a chwara' - rhywbeth wedi bod yn bwnc eitha 'taboo' oddi fewn i Gymru erioed

Gwneud pres allan o betha Cymraeg ! Shocking ynde ?

Yn ôl Geraint Jarman, a oedd yn ran allweddol o'r datblygiada' yma i gyd fel cynhrychydd y rhaglen deledu Fideo 9 - mae o'n gweld sefyllfa yn codi 'lle ma'r rhai sy'n aros oddi fewn i Gymru a canu yn Gymraeg yn cael ei gweld fel Cymru da, a'r rhai sy'n mynd tu allan i ganu yn ddwyieithog yn rhyw fath o fradwyr'.

Iddo fo, ma'r datblygiada yma yn creu sefyllfa lle ma canu yn y Gymraeg yn dechra teimlio fel 'poisoned chalice' yn hytrach na'r peth naturiol, liberating oedd o yn y cychwyn.

Wythnos nesa mi fyddwn ni yn edrych ar be sydd digwydd pan ma'r cerddorion yma yn mynd yn ddwyiethog ac yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd a chlod ar draws y byd i gerddoriaeth o Gymru - a'r effaith ar midset gwleidyddol poblogaeth cymru .

Emyr Glyn Williams

Be ydi'ch barn chi? Rhowch eich ymateb ar Flog C2 »

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.