Advertisement

Disco Cymraeg

Ian Cottrell

Cyfres Ian Cottrell ar C2

Rhaglen 4 Disco Cymraeg - Yr Arwyr Estron

Gwestai:
Endaf Emlyn (Injaroc/Jip)
Dewi Foulkes (Derwyddon Dr Gonzo)

Traciau:
Hanner Pei - Funkiwch O 'Ma
Jip Halfway (Fersiwn Byw)
Steely Dan - Black Friday
Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr - Lawr Yn Y Ddinas
Arfer Anfad - Swn Yn Y Nos
Jylopis - Funkylovelybubbly
Anweledig - Karamo
Drymbago - Anian
Stevie Wonder - Sir Duke
Derwyddon Dr Gonzo - Dangos Dy Wiwar

Hanner Pei sy'n agor rhaglen 4 o'r gyfres 'Disco Cymraeg' gyda 'Funkiwch O Ma' o 1991 ac y tro 'ma dyn ni'n canolbwyntio ar yr "Arwyr Estron" sy 'di dylanwadu ar ein cerddorion ni. Fy ngwesteion ydy Dewi Foulkes o Derwyddon Dr Gonzo ac Endaf Emlyn - artist unigol sydd hefyd wedi perfformio fel rhan o'r grwpiau Injaroc a Jip. Ac os oes 'na un thema yn rhedeg drwy'r rhaglen hon, funk ydy honno.

Ma' na draciau i ddod gan Drymbago, Anweledig, Geraint Jarman, Arfer Anfad a mwy ac ym mhob un o'r traciau hynny mae dylanwad cerddoriaeth funk yn gryf. Ond be ydy Funk? Dim ond un person fydd yn gallu esbonio hwn - James Brown. Os dych chi'n gwrando ar y 40 eiliad cynta' o 'Make It Funky' gan James Brown newch chi glywed rhywbeth - y curiad cynta yn y bar. Y drum a'r bas yn chwarae ar yr un pryd. Hwnna ydy be ma' nhw'n galw 'THE ONE' ac o gwmpas hwnna mae funk wedi seilio. Ac ar 'Soul Power' gan James Brown sylwch sut mae'r gitar rhythm a'r stabs gan yr offerynau pres yn llenwi'r bylchau i gyd o gwmpas 'THE ONE'.

Yn y bon dyna be ydy funk. Ond tyfodd funk o R+B - nid yr R+B dyn ni'n nabod heddiw -ond Rhythym and Blues y 50au. Roedd funk hefyd yn adwaith i swn slic Soul ddaeth o stabal Tamla Motown yn y 60au, ac yn ei dro byddai funk yn dylanwadu ar Disco yn y 70au ac hyd yn oed Electro yn yr 80au, nath ddylanwadu ar Techno yn y 90au ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen...

Ond cyn i ni golli'n pennau yn y groove, ddown ni'n nes at adre ac at y grwp nath ysbrydoli teitl y gyfres hon gydag un o'u caneuon nhw. Prif-leisydd y grwp oedd Endaf Emlyn, ac os fuodd na un person yn gyfrifol am gyflwyno Cymru i ddylanwad soul, r+b a funk, fo ydy o. Y grwp ydy Jip a'r gan ydy 'Halfway'.

Yn dilyn ein sgwrs gydag Endaf Emlyn, Geraint Jarman gyda Lawr Yn Y Ddinas o'r albym 'Gobaith Mawr Y Ganrif' ddaeth allan yn 1976, oedd, gyda 'Syrffio Mewn Cariad' gan Endaf Emlyn ddaeth allan yr un flwyddyn yn ddwy record nath gyflwyno synnau estron reggae a funk i mewn i gerddoriaeth Gymraeg am y tro cynta'.

Yn ystod yr 80au cynnar roedd rhythmau funk a disco i'w clywed yng ngherddoriaeth Bando a Caryl a'r Band ac roedd y "Slap Bass" - os dych chi'n ddigon hen, meddyliwch am Level 42, os dych chi ddim, meddyliwch am Red Hot Chili Peppers - wedi gwneud ei marc ar sawl record Gymraeg yng nghanol yr wythdegau hefyd. Yr un sy'n dod i'm meddwl i yn syth ydy 'Dwylo Dros Y Mor' yn 85, ond pan ddechreuodd yr SRG - y sin newydd, alternatif - daeth un grwp Funk i'r amlwg yn weddol fuan a nhw sy'n gyfrifol am ein clasur coll ar y rhaglen hon; 'Swn Yn Y Nos' gan Arfer Anfad o 1988.

Nid cerddoriaeth funk yn unig oedd wedi dylanwadu ar Arfer Anfad, ond hefyd steil o'r enw Afrobeat oedd yn dechrau ennill dilynwyr ym Mhrydain tua'r un adeg, yn bennaf wrth i bobl ifanc weld fideos o artistiaid fel Mory Kante, Youssou N'Dour a Fela Kuti ar raglenni teledu arbennigol wedi eu targedu atyn nhw fel 'Def II' ar BBC 2 ac yma yng Nghymru 'Fideo 9'. Roedd dylanwad Afrobeat hefyd i'w glywed yr un pryd ar recordiau grwpiau fel Talking Heads ac ar lefel mwy masnachol, yr album 'Graceland' gan Paul Simon.

Erbyn dechrau'r 90au, roedd cenhedlaeth iau o bobl - gan gynnwys fy hun a fy nghyfoedion Hanner Pei (nath ddechrau'r rhaglen hon) - wedi dechrau disgyn mewn cariad efo oes aur funk a disco y 70au. Ac mae'r diolch am hwn yn mynd i samplo a cherddoriaeth Hip Hop.

Fel dyn ni di clywed eisoes yn y gyfres, sail hip hop oedd y breaks - darnau offerynol o recordiau funk a disco, fyddai'n creu sylfaen i MC's rapio drosdo. Wrth greu trac hip hop newydd, felly, roedd yr artist hefyd yn cydnabod y gorffennol. Ond pam just gwrando ar y gan newydd pan oeddech chi'n gallu mynd nol at y gwreiddiol? Diolch i samplo a Hip Hop, oedd hi bellach yn bosib teithio 'nol mewn amser ac ail-greu yr hyn oedden ni wedi methu allan arni y tro cynta'.  

Jylopis o'r Wyddgrug oedd jyst un o'r grwpiau ar ddechrau'r 90au oedd yn cymryd dylanwadau funk a rhoi sbin Gymraeg arnyn nhw. A doedd hyn ddim jyst yn digwydd yng Nghymru chwaith. Ym Mhrydain, roedd grwpiau fel Incognito, Brand New Heavies a Jamiroquai yn sianelu ysbryd funk a disco ac yn ei gyfiethu i mewn i werthiant recordiau a llwyddiant yn y siartiau hefyd. Ar ôl cyfnod hir o gerddoriaeth electroneg yn rheoli bob dim, o'dd hi'n reit cwl i chwarae mewn band a chwarae cerddoriaeth ddawns yn fyw.

Ac o ran y sin fyw yng Nghmyru, Brenhinoedd funk y cyfnod oedd Hanner Pei - band efo sioe fyw wych a dealltwriaeth greddfol o sut i greu awyrgylch parti mewn gig. A gyda Ty Gwydr ac wedyn Diffiniad yn cynnig yr adloniant o'r ochr electroneg, roedd Cymru unwaith eto yn mwynhau dawnsio ac i fod yn onest, yn mwynhau mynd yn hollol mental mewn gigs.

Un o'r grwpiau nath dyfu o'r sin hon oedd Anweledig. Yn fand funk yn wreiddiol, dechreuodd eu cerddoriaeth gymryd mwy o gyfeiriad ska a reggae erbyn diwedd y 90au, a gyda'r steil honno nathon nhw ddarganfod eu traed - i ddwyn idiom Saesneg - a nath traed cynulleidfaoedd Cymru barhau i ddawnsio i'r bit.

Anweledig - oedd, ochr yn ochr a Big Leaves, y grwp mwya' poblogaidd ar y sin Gymraeg ar ddiwedd y nawdegau ac ar ddechrau'r degawd hwn. Ond fel gydag unrhyw sin, ma'r gynulleidfa yn newid ac mae bandiau'n mynd a dod. Erbyn 2005 roedd poblogrwydd Anweledig yn dechrau dirywio, wrth i'r recordiau ddechrau sychu fyny a'r perfformiadau droi mewn i fwy o sioe "un dyn meddw yn neidio o gwmpas y llwyfan" na band byw a bywiog.

Roedd 'na goron yno i'w chipio, ac am gyfnod byr roedd hi'n ymddangos mai'r band nesa fyddai'n dwyn teitl Anweledig fel prif fand byw Cymru pan oedd o'n dod i ddawnsio. Gwilym Morus oedd arweinydd Drymbago, band nath blethu rhythmau funk ac afrobeat i'r dim. Nath Gwilym hefyd gynhyrchu ep gynta band ifanc oedd yn efelychu steil Drymbago - Derwyddon Dr Gonzo a nhw sy'n dod a rhaglen 4 'Disco Cymraeg' i ben.

Wythnos nesa, yn rhaglen ola'r gyfres bydda i'n edrych ar yr arloeswyr electroneg yng nghwmni'r cynhrchydd Gorwel Owen a'r artist unigol Gerallt Ruggerio sy'n recordio o dan yr enw Plyci. Tan hynny, hwyl fawr.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.