Gwestai:
John Griffiths, Llwybr Llaethog
Ed Holden
Traciau:
Tystion - Smo Fi Ishe Mynd
Llwybr Llaethog - Tour De France
Davy DMX - One For The Treble
Pep Le Pew - Y Mwyafrif
Baswca - Hei Secsi
Cofi Bach a Tew Shady - Triwch Hi Ar
Genod Droog - El Droogo
The Prodigy - Diesel Power
Y Diwygiad - Cysgodion (Bin Bags Remix)
Pen-Ta-Gram - Pobol Ffug
Y flwyddyn yw 1997. Y gerddoriaeth yw Edward H Dafis. Ond ma be sydd i ddod yn rywbeth hollol wahanol.
Steffan Cravos a Gruff Meredith, neu i chi a fi - Tystion - oedd yn cychwyn rhaglen 3 o 'Disco Cymraeg' gyda 'Smo Fi Ishe Mynd' oddi ar eu albwm gynta 'Rhaid i Rywbeth Ddigwydd' o 1997. Testun y rhaglen hon yw Hip Hop.
Ond be' am ddechrau gydag ychydig bach o hanes. Rappers Delight gan Sugarhill Gang - trac o 1979 sy'n cael ei ystyried fel un o'r caneuon hip-hop cynta erioed. Yn defnyddio 'Good Times' gan Chic fel ei sail, byddai'r gân hon yn poblogeiddio'r genre gan droi hip-hop i mewn i frand ac yn galluogi i'r gerddoriaeth ddianc o'i gwreiddiau yn Efrog Newydd i fod Y gerddoriaeth fwya poblogaidd ymysg nid yn unig ieuenctid America ond ar draws y byd.
A doedd Cymru ddim yn eithriad chwaith, gyda'r sengl DULL DI-DRAIS gan Llwybr Llaethog yn cael ei rhyddhau ar RECORDIAU ANHREFN yn 1986 ac yn cael ei ddilyn flywddyn yn ddiweddarach gan TOUR DE FRANCE.
Erbyn 2000, daeth Pep Le Pew i'r amlwg gyda 'Y Mwyafrif' - y flwyddyn allen ni ystyried fel penblwydd HIP HOP yn un ar hugain oed - yn oedolyn go iawn, felly. Yn ystod ei ieuenctid - ac efallai'n fwy nac ydy hi heddiw - roedd y genre yn agored i ddylanwadau o bob man AC yn benthyg ei hun i sawl steil wahanol. Ac ar ben hyn i gyd roedd y diwylliant ei hun yn cael ei amsugno gan artistiaid poblogaidd du A gwyn oedd yn awyddus i roi sylw i'r steil newydd 'ma yn eu cerddoriaeth nhw. Trwy ddefnyddio elfennau syflaenol HIP-HOP ar eu recordiau nhw nath Blondie, Michael Jackson a Chaka Khan agor y gerddoriaeth yma i fyny i gynulleidfa fasnachol oedd erioed wedi clywed y fath beth gyda chaneuon fel 'Rapture', 'Thriller' ac 'I Feel For You'.
Felly, erbyn dechrau'r ddegawd hwn, roedd diwylliant HIP-HOP, hynny yw, ei eirfa, ei wisg, ei agwedd a'r pethau dyn ni'n cymryd yn ganiatol heddiw fel crafu recordiau, break-dancing, graffiti, rapio a hyd yn oed beat-bocsio wedi plannu eu hunain yn ddwfn i mewn i gerddoriaeth a diwylliant poblogaidd.
Yng Nghymru ar ddechrau'r degawd hwn o'dd HIP HOP wedi sefydlu ei hun fel grym cerddorol pwysig ac o'dd hi'n cynnig cyfrwng mynegiant i lawer o ddarpar-rapwyr oedd efallai'n teimlo allan o le mewn Talwrn ond yn dal isho cyfathrebu efo cynulleidfa. Ma'r cysylltiad rhwng beirdd a rapwyr yn un amlwg - efallai'n FWY amlwg i ni yng Nghymru nac ydy o mewn diwylliannau lle ma' na lai o bwyslais ar y traddodiad llafar - ac felly, yn teimlo fel esblygiad naturiol yn hytrach na rhywbeth estron i ni.
Fel dyn ni di clywed, Y Bronx oedd man geni HIP HOP - ardal ddi-freintieidig o Manhattan oedd a digon o rapwyr, DJ's ac artistiaid yn barod i fyrstio allan ohoni i wneud eu marc ac i ddweud eu dweud. Ond yma yng Nghymru, roedd rhan fwya o'r rapio yn cael eu gwneud gan fechgyn dosbarth canol oedd wedi cael magwraeth lyfli ac oedd yn gallu adrodd cerdd gan TH PARRY WILLIAMS yn well nac oedden nhw'n gallu rapio. Mae'n frwydr oesol mewn celfyddyd. Sut mae "ei chadw hi'n real"? Ydy'n bosib byw ar y briwsion pan mae Mami'n mynd a ti i gaffi ym Mhontcanna i gael cinio? A be fyddai ffrindiau Dadi'n dweud petawn nhw'n clywed ti'n sôn am y **** ym mhobman?
Mae Cymru yn rhy fach i guddio dy wreiddiau; a dyna pam o'dd yr artistiaid nesa i ddod ar y sîn yn chwa o awyr iach - y working class scumbag o Gaernarfon, Cofi Bach, gyda chydig o help gan Tew Shady ar Triwch Hi Ar, o 2005.
Erbyn i Tystion chwalu yn 2002 roedd y plant newydd ar y bloc - Pep Le Pew - yn barod wedi cipio eu coron ac am ddwy flynedd wedyn, nhw oedd un o'r bandiau mwya ffrwydrol - yn enwedig yn fyw - yn y Sîn Gymraeg.
Yn gyfuniad gwych o'r ffrynt-man aml-dalentog Aron Elias, y cynhyrchydd Dyl Mei a DJ ifanc o'r enw Ed Holden, Pep Le Pew oedd y band hip-hop Cymraeg cynta yng ngwir ystyr y gair - hynny yw, lleisiau, dryms, crafu recordiau, gitars, allweddellau a samples i gyd i'w gweld a'u clywed yn fyw o'ch blaenau ar y llwyfan.
Yn raddol cymerodd Ed Holden fwy o gyfrifoldeb dros y rapio, gan ennill ei le ar flaen y llwyfan i rannu swydd prif-ddyn Pep Le Pew ar y cyd gydag Aron. Hyfforddiant da iawn ar gyfer y brosiect fyddai'n dilyn ar ol i Pep Le Pew chwalu yn 2005 - Genod Droog - yn ogystal â'i brosiectau diweddara' sef Y Diwygiad gyda Nei Karadog a phennaeth ar griw newydd o rapwyr o'r Gogledd sef Pen-ta-Gram.
Tro nesa ar Disco Cymraeg bydda i'n edrych ar yr ARWYR ESTRON wrth i ni glywed sut mae FUNK a REGGAE wedi dylanwadu ar gerddoriaeth Gymraeg, gyda Dewi Foulkes o Derwyddon Dr Gonzo ac Endaf Emlyn yn gwmni i mi.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

