Rhaglen 2 Disco Cymraeg - Y Genhedlaeth Reu-ve
Gwestai:
Gareth Potter
Geraint Pickard
Traciau:
Ffa Coffi Pawb - Allan o'i Phen (Reumics)
Ty Gwydr - Rhyw Ddydd
A Guy Called Gerald - Voodoo Ray
Ty Gwydr Vs Llwybr Llaethog gyda M.C D.R.E - Credwch Mewn Byw
Huw G a DJ Williams - Trip Dewi Emlyn
Acid Casuals - Lexi Funk
Tokyu - Brwgrats
Ail Gyfnod - Pam?
Inner City - Pennies from Heaven
Clinigol - La Nuit, Si Douce
"We'll take a bit of this and that" o'dd un o'r llinellau enwog o'r gan 'Hallelujah' gan Happy Mondays, ddaeth allan ar ddiwedd '89 gyda remix gan DJ ifanc o'r enw Paul Oakenfold. Mae o fyny i chi i ddehongli am be yn union o'dd Shaun William Ryder yn sôn, ond yn sicr, o'dd y linell honno yn disgrifio ethos y cyfnod i'r dim pan mae'n dod i gerddoriaeth ddawns, wrth i'r DJ a'r cynhyrchydd ddod yr un mor bwysig - ac weithiau'n bwysicach - na'r artist. Hwn oedd oes y samplo, oes y remix, y gitars yn cymysgu efo'r curiadau electroneg, a'r House Heads a'r Indie Kids yn dod at ei gilydd. Croeso i ran 2 o Disco Cymraeg... a chroeso... i'r Genhedlaeth REU-VE.
Swn Madchester via Bethesda a Sir Fon oedd i'w glywed ar remix Gorwel Owen o 'Allan o'i Phen' gan Ffa Coffi Pawb o 1990, un o'r grwpiau gafodd eu dylanwadu gan y diwylliant rave newydd oedd yn byrlymu ym Manceinion - lle roedd Gruff Rhys yn astudio - ar droad y degawd hwnnw. Tri chan milltir i ffwrdd yn Ne Lloegr roedd Cymry alltud eraill yn barod wedi mabwysiadu'r un meddylfryd, ac ar ol i'w grwp cynta' nhw - Traddodiad Ofnus - ddod i ben yn 1989, penderfynodd Mark Lugg a Gareth Potter barhau efo'r gerddoriaeth o dan enw newydd. Gyda samples Saunders Lewis, curiadau house cadarn a chytgan llawn gobaith yn gefn iddyn nhw, ganwyd Ty Gwydr.
Yn y rhaglen hon, dyn ni'n canolbwyntio ar ddylanwad cerddoriaeth house ar ein artistiaid dan sylw a nes ymlaen byddwn ni'n clywed am Clinigol, Ail Gyfnod, Inner City, Acid Casuals a Tokyu, ond cyn hynny, enghraifft cynnar o samplo yn y Gymraeg. Fel gydag unrhyw degan newydd ma' na duedd i fechgyn bwyso'r botymau i gyd ar unwaith i weld be neith o, chwarae efo fo am dair awr yn ddi-stop ac yna diflasu arno fo a peidio mynd yn agos ato fo eto. Ar 'Trip Dewi Emlyn', dyna be oedd Huw G a Dj Williams yn gwneud wrth gael hwyl yn ffonio Kevin Davies yn fyw ar Radio Cymru i ofyn iddo fo os ydy o'n gwbod ble mae Dewi Emlyn o Ffa Coffi pawb, bwydo'r holl beth i fewn i sampler a pheiriant 4 trac ac yna gweddio am y gorau.
Yn 1988 roedd cerddoriaeth house a recordiau yn cynnwys samples di dechrau cyrraedd brig y siartiau ym Mhrydain gan boblogeiddio'r ddau genre a'u tynnu nhw allan o'r clybiau ac i mewn i lygad y cyhoedd. Mae'r diolch yn mynd i draciau fel 'Jack Your Body' gan Steve Silk Hurley o Chicago - y ddinas gyda llaw, nid y grwp Soft Rock, 'Theme From S'Express' gan Mark Moore a'i griw S'Express o Lundain a grwp o gynhyrchwyr a DJ's Prydeining dan yr enw MARRS gyda Pump Up The Volume. Ac erbyn diwedd '88 byddai band techno o'r enw Inner City wedi rhoi dau drac yn y Deg Uchaf fan hyn, yn profi bod prynwyr recordiau Prydain wedi cymryd y gerddoriaeth newydd hon at eu calonnau. Techno oedd brawd bach mwy caled House - yn deillio o Detroit ac yn fwy electroneg ei naws na'i berthynas hyn o Chicago. Disgrifiodd un o arloeswyr y genre, Derrick May, y gerddoriaeth fel "George Clinton and Kraftwerk stuck in an elevator with only a sequencer to keep them company".
Yma yng Nghymru roedd gan Techno ei ffans ffyddlon, gan arwain at ffurfio dau grwp fyddai'n gwneud enw i'w hunain yn creu'r gerddoriaeth hon. Tyfodd Acid Casuals o wreiddiau'r grwp byr hoedlog Wwzz, via Big Leaves, ffilm Twin Town a'r Super Furries, tra roedd Tokyu yn grwp o ffrindiau o Aberystwyth oedd yn rhannu'r un hoffter o ysbryd rave a mynd amdani fel ffwliaid yn eu perfformiadau byw.
Gyda thechnoleg yn gwella daeth prisiau offer i lawr yn ystod y cyfnod hwn, yn caniatau i fwy o ffans cerddoriaeth ddawns fedru prynu pethau fel decks os oeddech chi'n DJ wannabe, samplers os taw cynhyrchu oedd yn mynd a'ch bryd ac - i'r rhai oedd yn gerddorion - allweddellau. Wedi'r cwbl, be oedd y pwynt cael band tu ôl i chi pan oedd synth neu sequencer yn gallu neud yr holl beth i chi beth bynnag. Yma yng Nghymru, roedd grwp ifanc o Aberdâr di manteisio ar hwn ac wedi profi'n boblogaidd iawn ar ddechrau'r nawdegau. Yr aelodau oedd Richard Lazlo a'r brodyr Gwion a Dyfan Jones a'u enw nhw oedd Ail Gyfnod - rhyw fath o Clinigol cynnar!
Tro nesa ar Disco Cymraeg byddwn ni'n canolbwyntio ar fyd y DJ a'r MC wrth i ni fwrw golwg dros ddiwylliant HIP HOP yng ngwhmni John Griffiths o Llwybr Llaethog ac Ed Holden o'r Diwygiad.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

