Rhaglen 1 Disco Cymraeg
Cerddoriaeth rhaglen 1
Jip - Disco Cymraeg
Bando - Shampw
The Jacksons - Blame It On The Boogie
Endaf Emlyn - Dawnsionara
Gari Prysor - Dawnsio Tan Y Bore
Y Gwefrau - Get Down
Soul II Soul - Back To Life
Diffiniad - Hapus
DJ Dafis - Seithfed Nef
Swci Boscawen - Min Nos Monterrey
Mae bit y disco'n fy ngwaed - llinellau cynta' cytgan Disco Cymraeg gan Jip, teitl y gyfres hon a man cychwyn ein taith gerddorol drwy hanes cerddoriaeth ddawns Gymraeg.
Disco Cymraeg o'r record 'Genod Oer' o 1980 gan Jip - grwp byr-hoedlog Endaf Emlyn, Myfyr Isaac a John Gwyn ond record bwysig iawn yn nhermau'r hyn dyn ni am ei glywed.
Ian Cottrell ydw i, Dwi'n dj, yn ffan o gerddoriaeth ddawns ers dwi'n cofio ac efo diddordeb mawr mewn gwbod sut nath arddulliau mor amrywiol ac estron a house, hip-hop, electro, funk, techno a reggae dreiddio mewn i'n cerddoriaeth ni yma yng Nghymru.
Yn ystod y gyfres hon byddai'n bwrw golwg dros rhain a mwy, yn chwarae rhai o draciau dawns Cymraeg mwya' cofiadwy a dylanwadol o'r deng mlynedd ar hugain ddiwetha', yn ogystal a rhai llai adnabyddus. Mi fyddai hefyd yn siarad efo'r bobl sy di bod yn rhan o'r sin hon, sin sy di pontio'r tanddaearol a'r masnachol, a dyna lle dyn ni am ddechrau....
Ym 1991 nes i ffurfio grwp efo'n ffrindiau ysgol o'r enw Diffiniad a dros bedair albym a deng mlynedd nathon ni ryddhau caneuon fel Dewch at eich Gilydd, Funky Brenin Disco, Hen Fyd Trist, a Tro Fi Mlaen. O, a nathon ni Calon hefyd ond ddown nôl at y trac yna a mwy am Diffiniad nes mlaen.
Caryl Parry Jones oedd y llais nath alw'r Cymryi'r llawr dawns ar ddiwedd y saithdegau a dechrau'r 80au. Wedi sefydlu'u hunain ym 1980 gyda'r albwm 'Yr Hwyl Ar Y Mastiau', roedd ei grwp hi - Bando di dod a swn disco i glustiau'r Cymry gyda chaneuon fel 'Space Invaders' a 'Bwgi', ond gyda'u hail albwm yn 1982 fe seliodd Caryl ei lle fel Brenhines Disco Cymraeg.
Wrth wrando ar Endaf Emlyn 'Dawnsionara' - y prif drac oddi ar ei album ola, ddaeth allan yn 1981 dyn ni'n clywed rhai o gerddorion mwya talentog y brifddinas arni aeth ymlaen i chwarae gyda Caryl a'r Band ar eu albwm nhw ym 1983.
Erbyn y cyfnod hwn, roedd presenoldeb disco yn y siartiau wedi hen ddiflannu. Ond roedd rhai pobl yn dal i gadw'r ffydd. Draw yn Efrog Newydd yn ardaloedd y Bronx a Brooklyn, roedd DJ's fel Red Alert a Grandmaster Flash yn cymryd darnau offerynnol o recordiau disco a funk - y breaks - ac yn creu steil dyn ni'n ei nabod heddiw fel hip-hop.
Ar yr un pryd ganoedd o filtiroedd i'r gorllewin yn Chicago yng nghlwb nos The Warehouse, roedd y DJ Frankie Knuckles yn gosod curiadau dryms electroneg newydd o dan hen glasuron disco ac yn gosod seiliau math newydd o gerddoriaeth fyddai'n cael ei enwi ar ôl y clwb ei hun, wrth i ddawnswyr brwd adael y lle yn oriau mân y bore ar ol i'r gerddoriaeth stopio, heidio i'r siop recordiau agosa a gofyn i'r perchnogion "Where can I buy this house music?"
Cyn i ni fwrw mewn i ail hanner yr wythdegau a dechrau'r nawdegau pan newidiodd popeth: dyma glasur coll o '83 gan Gari Prysor, oedd yn crynhoi ysbryd disco - a'r hyn oedd i ddod i'r dim, sef 'Dawnsio Tan Y Bore' - gafodd ei recordio ar gyfer Sesiwn Sosban ar Radio Cymru ym 1983 a'I rhyddhau ar albwm Sesiwn Sosban 2 ar label Sain yr un flwyddyn.
Yng nghanol yr wythdegau yng Nghymru, gwae i chi os oeddech chi isho creu cerddoriaeth fasnachol - mewn unrhyw genre - achos erbyn 1985 roedd yr SRG di cyrraedd go iawn. Hon oedd yr ymateb I'r prif lif, yr alternatif roddodd enedigaeth i rai o enwau mwya' cyfarwydd a dylanwadol y degawd i wrandawyr oedd yn chwilio am "rywbeth newydd"- Y Cyrff, Datblygu, Yr Anhrefn a Tynal Tywyll i enwi'm ond pedwar. Ac os oeddech chi ddim yn gafael mewn gitar ac yn edrych fel bod chi ddim ishe bod yno, yna roedd hi di canu arnoch chi. Wrth gwrs o'dd na gwpl o eithriadau, ac mi roddodd rhai y gitar yn y to a'i swopio am y sampler a'r drym machine...
Y teimlad cyffredinol oedd bod na ddim hwyl yn y sin, ond erbyn haf '89 roedd hwn i gyd ar fin newid wrth i grwpiau fel Y Gwefrau ymddangos.
Y Gwefrau oedd band o Gaerdydd oedd efo un droed ar y llawr dawns ac un yn yr SRG, clust am felodi bachog, a'r arf gudd - dwy ferch yn eu harddegau hwyr yn ffryntio'r holl beth. Yn y byd pop mae'r cyfuniad hwnnw yn un oesol a llwyddiannus, ac yn y byd pop Cymraeg, yn rhywbeth newydd I'r genhedlaeth o ffans cerddoriaeth Gymraeg fatha fi oedd di cael digon o grwpiau o fechgyn yn syllu ar eu Doc Martens ac oedd just isho dawnsio.
Ar ôl bod allan o ffasiwn braidd am ychydig flynyddoedd, erbyn Haf poeth 89 roedd cerddoriaeth ddawns di dechrau cropian nôl i mewn i'r siartiau, ac yn bwysicach fyth, i rif 1. Ond rhwng y Jive Bunny, Stock Aitken and Waterman a'r New Kids On The Block, dau record nath ddiffinio'r flwyddyn honno a dylanwadu ar lot fawr o gerddoriaeth ddawns fyddai'n eu dilyn.
Un oedd trac house o'r Eidal o'r enw 'Ride On Time' gan Black Box, nath werthu bron i filiwn o gopiau oedd di dwyn - sori, samplo - llais o hen record disco a'r llall... ydy dewis fy ngwestai nesa. Yn rhif 1 am bedair wythnos union ugain mlynedd yn ôl, mae r+b Americaniadd cyfoes sy'n domiwnyddu siartiau'r byd erbyn hyn efo dyled enfawr I'r trac nesa. Coeliwch chi fi, doedd na ddim byd Ttebyg i hon di cael ei chlywed o'r blaen - 'Back To Life' gan Soul II Soul.
Erbyn 2001 mi oedd hi drosodd i Diffiniad. Yn ystod ein deng mlynedd efo'n gilydd oedden ni di gweld lot fawr o grwpiau'n mynd a dod ac oedd hi'n teimlo bod hi'n hen bryd i ni basio'r fantell ymlaen i rywun iau na ni. Ar gyfer ein gig ola ar Maes B y flwyddyn honno, nathon ni ofyn i grwp newydd o'r enw Pep Le Pew gefnogi ni a dj ifanc oedd yn f'atgoffa i o be oedd Diffniad yn trio neud degawd yn gynharach. Ei enw oedd DJ Dafis.
A dyna ni - yn ôl lle dechreuon ni drwy sampl o'r gân 'Caru'n Ara' gan Caryl a'r Band o 1983. 'Seithfed Nef' oedd y trac gan DJ Dafis, rhywun oedd ddim hyd yn oed di cael ei eni pan fyddai Bando di bod yn strytio'u stwff ar lwyfannau Cymru ar ddechrau'r 80au.
Prawf, os oedd angen un, mai cerddoriaeth ddawns yw un o'r unig genres sy'n gallu edrych ymlaen tra'n edrych yn ol.
Y tro nesa ar 'Disco Cymraeg' byddwn ni'n treiddio'n ddyfnach i fyd house a techno, yn clywed sut nath hogiau gwyn Bethesda neidio ar y bandwagon a alwyd yn "rave" ac yn siarad efo Gareth Potter o Ty Gwydr a Geraint Pickard o Clinigol.
I orffen y rhaglen, be gewch chi petaech chi'n rhoi holl gynhywsion yr awr ddiwetha i fewn i 'blender' a'u tollti nhw mewn i sgert mini, bwts du a'i addurno gyda liptick coch? Canlyniad tri deg mlynedd o disco-pop Cymraeg - Swci Boscawen a 'Min Nos Monterey'. Tan y tro nesa, hwyl fawr.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

