Ankstmusik
Un o labeli recordiau mwyaf arloesol Cymru, mae'u hartistiaid presennol yn cynnwys MC Mabon, Zabrinski, Ectogram a Wendykurk. Ar y wefan mae yna newyddion, manylion am artistiaid a recordiau, a chyfle i brynu recordiau (hen a newydd). www.ankst.co.uk
Aran
Stiwdio Aran ger Caernarfon o dan arolygaeth y cynhyrchydd Emyr Rhys. Artistiaid yn cynnwys Siwan Llynor, Gafyn Buckland, Gwyn Evans + Dr Jazz ac Elwyn Wilson-Jones. Ceir mwy o fanylion a chyfle i wrando a phrynu'r traciau ar www.traciaucymraeg.com
Arlais
Dyma'r lle i fynd os am brynu CD's gan Zenfly a Aeram Evans. www.arlais.co.uk
Awen
Label recordiau o Ynys Môn sydd wedi ryddhau CDs gan grwpiau fel Dau Cefn, Bysedd Melys, Corridor, Niwed ac eraill. Dim safle gwe ar hyn o bryd.
Bocs 50
Label recordio Martyn Geraint a mwy yn ardal Pontypridd sydd eisie rhoi adloniant i blant o bob oedran yng Nghymru a chyfle i bobl ifanc a thalentog y cymoedd i arddangos eu doniau! http://bocs50.moonfruit.com
Bos
Wedi'i leoli yn Llanerfyl, Powys mae Recordiau Bos yn label gymharol ifanc oedd yng ngofal casgliad aml-gyfrannog Cymuned - 'Y Gwir yn Erbyn y Byd'.
Ciwdod
Is-label Gymraeg Complete Control Music sy'n gweithio gyda bandiau newydd - maen nhw wedi rhyddhau senglau gan Drymbago, Poppies, Cofi Bach a Tew Shady a mwy. www.completecontrolmusic.org/ciwdod
Complete Control
Yn label cymunedol sy'n hyrwyddo bandiau a cherddorion ar draws Cymru. Mae'r wefan yn cynnwys newyddion, lluniau, manylion gigs a siop i brynu nwyddau. www.completecontrolmusic.org
Crai
Is-label Sain. Un o'r labeli mwyaf cynhyrchiol yn y Gymraeg - mae'u catalog diweddar yn cynnwys artistiaid fel Anweledig, Big Leaves, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Maharishi, Gwenno, a TNT. Newyddion diweddara am yr artistiaid a chatalog arlein ar y safle gwe. www.sain.wales.com/cymraeg/crai/index.htm
DA Records
Yn hyrwyddo grwpiau roc o'r 70au a'r 80au ac yn trefnu gigs yn ardal Caerdydd. www.darecords.co.uk
Dockrad
Label recordiau o Gaerdydd sy'n gweithio gyda grwpiau fel Skep, MC Saizmundo, Ashokan, The Afternoons, Maniana. Gwefan da gyda'r newyddion a'r gigs diweddara, a chyfle i brynu CDs ar y we. www.dockrad.com
Fflach
Cwmni recordiau dylanwadol gydag amrywiaeth o gerddoriaeth - o'r traddodiadol i ganu pop. www.fflach.co.uk
Fitamin Un
Label cyffrous y rapiwr Steffan Cravos (aka Sleifar) sydd wedi rhyddhau deunydd gan Tystion a Pep le Pew
Gwynfryn Cymunedol
Label arloesol o ardal Waunfawr, Caernarfon, sy'n gyfrifol am ddatblygu talentau fel Meinir Gwilym, Epitaff, Quidest, Anhysbys. www.gwynfryncymunedol.co.uk
High Quality Recordings
Label diddorol sy'n rhyddhau stwff electroneg fel Blodyn Tatws a Les Idiots. Ar y wefan mae 'na newyddion a chyfle i glywed rhai o'r traciau. www.highqualityrecordings.co.uk
Kissan
Y label sy'n gyfrifol am y delynores Catrin Finch a'r artist jazz/gwerin Ryland Teifi. CDs ar werth ar y wefan. www.kissanproductions.com
Mighty Atom
O Abertawe, dyma gartref Goatboy, Hondo Maclean, Headcase Ladz a llawer mwy. www.mightyatom.co.uk
MPLP
Label wedi'i leoli yn Garndolbenmaen, Gwynedd ac yng ngofal y cynhyrchydd Dyl Mei. Mae'n arbenigo mewn cerddoriaeth Hip-Hop a Dawns a mae grwpiau fel Pep le Pew, Bob George, Gwallt Mawr Penri a Mehefin y Cyntaf i gyd yn recordio gyda MPLP.
Neud nid Deud
Label y grwp Llwybr Llaethog.
Noo Noo Records
Cerddoriaeth ska a punk caled - ar y wefan mae yna ddigon o newyddion, cerddoriaeth ar mp3, a chyfle i brynu'r recordiau. www.noonoorecords.com
Peski
Y label wnaeth ryddhau albym cyntaf 'Jakokoyak'. Mae'r wefan aml-ieithog yma'n cynnwys newyddion, manylion y bandiau ac arlunwaith arbennig. www.peski.co.uk
Placid Casual
Label y Super Furry Animals. Dyma'r label wnaeth ryddhau CD Gymraeg y grwp Mwng . Artistiaid eraill sydd wedi recordio gyda'r label yw Broken Leaf (Teflon Monkey), Qualidada, Psycho VII, Bench, Arm of Roger. www.placidcasual.com
Plastic Raygun
Cartref Jean Jacques Smoothie, Stabilizer, Phantom Beats a llawer mwy - yn arbenigo mewn cerddoriaeth breakbeat. www.plasticraygun.com
Poisoned Whiskey Records
Label sy'n cefnogi cerddoriaeth punk yng nghymoedd y Rhondda. www.poisonedwhiskeyrecords.com
Post Office Records
Cerddoriaeth electroneg unigryw. www.postofficerecords.com
RASAL
Label o Landwrog, Caernafon sy'n hyrwyddo bandiau ac artistiaid newydd/ifanc. Mae nhw'n rhannu swyddfa ac adnoddau gyda label recordiau Sain. www.rasal.net
RASP
Is-label Fflach. Wedi profi i fod yn label hynod o gyffrous drwy roi llwyfan i artistiaid fel Texas Radio Band, DJ Dafis, Doli, Baswca, Vanta ac eraill. Manylion y label ar safle gwe Fflach. www.fflach.co.uk
R-Bennig
Label arbrofol o Walchmai, Ynys Môn. Wedi rhyddhau cynnyrch amrywiol dros y blynyddoedd o Waw Ffactor i Glovebox.
www.r-bennig.com
Recordiau Kimberley
Label newydd sydd gyda traciau gan ystod eang o artistiaid yn cynnwys Cate le Bon a Mr Huw i'w lawrlwytho am ddim ac i'w prynu www.recordiaukimberley.co.uk
Recordiau Menai
Label o'r Felinheli sydd yn gysylltiedig â Stiwdio Eglwys. Dyma'r label daeth â Cofi Bach i amlygrwydd gyda'r sengl 'Triwch Hi Ar', ac mae nhw hefyd yn rhyddhau deunydd gan Rhian Mostyn, Gareth Wyn a Ryan Kift. www.stiwdioeglwys.co.uk
Sain
Un o brif gwmniau recordio Cymru. Catalog yn cynnwys gwybodaeth am gasetiau, cryno-ddisgiau a fideos ar gyfer plant a phobl o bob oed. Canu gwerin, pop, cymanfa, corau, telyn, cerdd-dant a chlasurol. www.sainwales.com
Skipping Beats
Label hip hop ac electronig o ardaloedd Caerdydd a Llundain sy'n rhyddhau deunydd o Gymru i'r byd. skippingbeats.com
Slacyr Records
Y cynhyrchydd Dyl Mei (Pep le Pew, Gwallt Mawr Penri, Mehefin y Cyntaf etc.) sy'n ngofal y label yma o Garndolbenmaen. Y label yn rhyddhau deunydd gan Texas Radio Band. www.slacyr.co.uk
Slow Graffiti
Label pop arbrofol o Gaerdydd. Cyfle i wrando a phrynu recordiau ar y wefan. www.slowgraffiti.com
StiwdioJG
Mae StiwdioJG erbyn hyn yn label recordio, stiwdio recordio ac asiantaeth ar gyfer John Grindell, Passion a Saving Sirens. www.john.grindell.20m.com
Sylem
Label y grwp Melys o Fetws y Coed. Mae gan y grwp stiwdio sy'n gartref i grwpiau poblogaidd fel Melys, Gabrielle 25, Infinity Chimps, Kentucky AFC a llawer mwy. www.sylem.com
Os ydach chi'n sefydlu label newydd, rhowch wybod i C2 drwy ebostio c2@bbc.co.uk
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau uchod
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: C2: Hefin Thomas (23:02-01:00)
Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Hefin Thomas.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

