Gwefannau eraill

Chwilio am fwy o wybodaeth gerddorol? Cymerwch olwg ar y rhain...

Aberystwyth Music Promotions
Gwybodaeth am gerddoriaeth a gigs yn ardal Aberystwyth. www.abermusic.net

Adam Walton
Cerddoriaeth newydd bob nos Sul gan y DJ Adam Walton ar Radio Wales. Safle gwe yn cynnwys newyddion, rhestr traciau a chystadleuaeth. adamwalton.co.uk/mysterytour

Bandit
Tudalen gartref y rhaglen gerddoriaeth Bandit ar S4C sy'n cynnwys manylion am y bandiau, y rhaglen, y newyddion diweddaraf a pherfformiadau byw. www.bandit247.com

Barfly
Clwb nos yng Nghaerdydd sy'n cynnal gigs gyda nifer o fandiau newydd a chyffrous. www.barflyclub.com

BBC Wales Music
Newyddion, adolygiadau, proffeils grwpiau a chyfle i lwytho papur wal o'ch hoff grwpiau i'ch cyfrifiadur. Gwefan dda yn llawn stwff. www.bbc.co.uk/wales/music

Byd Mawr Crwn
Mae Byd Mawr Crwn yn hybu dealltwriaeth ddiwylliannol a chodi ymwybyddiaeth ryngwladol o wahanol wledydd drwy ddefnyddio cerdd, celf a dawns, ac fel rhan o hyn yn cynnal nosweithiau DJ a chlwb yn ardal Bangor. www.bydmawr.org

Clwb Ifor Bach
Un o glybiau nos mwya' prysur Caerdydd. Holl fanylion y gigs ar eu gwefan. www.clwb.net

Cofi Roc
Clwb nos yng Nghaernarfon sy'n llwyfanu gigs drwy'r flwyddyn. Calendr gigs a manylion grwpiau ar eu gwefan. www.cofiroc.com

Curiad
Mae gwefan Curiad, a sefydlwyd yn 1995, yn cynnwys dyddiadur gigs arbennig gyda manylion am y lleoliadau ac mae yna lwyth o wybodaeth gefndirol am artistiaid Cymraeg hen a newydd. Mae hon werth ei gweld!
curiad.org

Cwrwgl
Gigs misol yn ardal Caerfyrddin - manylion y gigs a chyfle i ddweud eich dweud ar y wefan yma. www.cwrwgl.com

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mudiad sy'n ymgyrchu dros ddyfodol yr iaith Gymraeg a sy'n weithgar iawn yn trefnu gigs ar hyd a lled Cymru. www.cymdeithas.com

Galeri Caernarfon
Datblygiad newydd yn nhref y Cofis lle mae gweithdai yn cael eu cynnal i helpu bandiau ac artistiaid newydd. www.galericaernarfon.com

Gwallgofiaid
"Criw gwallgo, nyts, bananas sy'n byw ar 'blaned pomigranet'." Mewn geiriau eraill, cwmni sy'n cynnal a rhedeg gweithdai roc a DJs i bobl ifanc yng ngogledd Cymru a Cheredigion. www.gwallgofiaid.com

Gwyl y Cenhedloedd Bychain
Manylion am wyl gerddoriaeth rhyngwladol sy'n cael ei chynnal yng Nghil y Cwm, ger Llanymddyfri. www.smallnations.com

Jyst y Job
Cymorth ar sut mae llwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth. www.bbc.co.uk/wales/justthejob

Link 2 Wales
Gwefan sy'n rhoi sylw i'r sin gerddoriaeth yng Nghymru a Lerpwl. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gigs, adolygiadau o CDs a gigs, archif newyddion, cyfweliadau a llawer mwy. link2wales.co.uk

Lleol i Mi
Fel rhan o wefannau 'Lleol i Mi' y BBC, mae yna dudalennau arbennig i'r sîn gerddoriaeth yn y gogledd orllewin, sy'n cynnwys holiaduron gyda grwpiau, sgyrsiau gydag artistiaid fel Gruff Rhys o'r Super Furries a manylion lleoliadau gigs yr ardal. Mae werth ei weld! www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin

Maes B
Manylion gigs Maes B yn y Steddfod Genedlaethol - y bandiau, y tocynnau, y lleoliadau, a'r lluniau. www.maesb.com

maes-e.com
Yn benthyg enw o gân enwog Datblygu, dyma fforwm drafod boblogaidd yn Gymraeg. 'Heb y barnu na'r cystadlu'. www.maes-e.com

Monsterism - Pete Fowler
Gwefan diddorol sy'n llawn o waith celf a fideos gan yr arlunydd sy'n gwneud gwaith celf i'r Super Furry Animals. www.monsterism.net

Morfablog
Fel mae'n dweud ar eu gwefan - "Gweflog yw hon, bois. Fath o wefan bersonol, wedi'i wneud gan bostio cofnodion eitha cyson ynglyn â phethau dw i'n eu ffeindio ar y we..." morfablog.com

MySpace C2
Safle C2 ar y rhwydwaith poblogaidd MySpace www.myspace.com/c2radiocymru

Popty - S4C
Gwefan lliwgar sy'n cynnwys gwybodaeth am westeion a chyflwynwyr y rhaglen Popty ar S4C. www.s4c.co.uk

Pure Cardiff
I wybod am holl gigs a digwyddiadau'r brifddinas, yna syrffiwch draw i'r wefan yma. www.purecardiff.com

Pynci
Cwmni sy'n hyrwyddo cerddorion a grwpiau ifanc. Mae'r wefan dwyieithog yn cynnwys newyddion diweddar a gwybodaeth am gigs ac artistiaid. www.pynci.tv

Radio Amgen
Cyfle i glywed sioeau radio sy'n cynnwys remicses gan rhai o fandiau/DJs mwya' diddorol Cymru. www.radioamgen.com

Radio 1 - Session in Wales
Cerddoriaeth o Gymru ar sioe radio Huw Stephens (o C2) a Bethan Elfyn ar Radio 1. Newyddion, sesiynau a chyfweliadau ar eu gwefan. www.bbc.co.uk/radio1

Sebon
Siop cerddoriaeth Gymraeg arlein. www.sebon.co.uk

Sesiwn Fawr Dolgellau
Un o wyliau cerddorol mwya' poblogaidd Cymru sy'n denu miloedd i'r Marian yn Nolgellau bob haf. www.sesiwnfawr.com

S.N.O.G. - Snowdonia Nights out Gazette
Gwefan dda gyda manylion digwyddiadau, gan gynnwys gigs, yn y gogledd. www.snogonline.co.uk

Soundnation
Cylchgrawn cerddorol o Gymru sydd erbyn hyn wedi dod i ben, ond dal gyda digon o wybodaeth ddefnyddiol a diddorol am y diwydiant cerddoriaeth. www.soundnation.net

Tacsi
Cylchgrawn Gymraeg sy'n llawn o stwff da am gerddoriaeth, ffasiwn a bywyd yng Nghymru. A mae am ddim! www.safletacsi.com

Tyrfe Tawe
Gwyl fawr sy'n cael ei threfnu yn Abertawe. Holl fanylion Tyrfe Tawe ar y wefan yma. www.tyrfe-tawe.com

Unarddeg.com
Safle gymunedol sy'n rhoi sylw i'r 'Sîn Roc Gymraeg'. Mae'n cynnwys newyddion, adolygiadau, erthyglau a chyfle i unrhywun gyfranu i'r wefan - mae'n llawn o stwff newydd ac yn werth ei gweld. www.unarddeg.com

Uned 5
Safle gwe y rhaglen deledu, gyda archif o wybodaeth a lluniau o westeion y rhaglen, gemau, clecs a llawer mwy!www.uned5.co.uk

Urdd Gobaith Cymru
Prif fudiad ieuenctid Cymru - gwefan yn cynnwys holl fanylion eu gweithgareddau. www.urdd.org

Welsh Bands Weekly Cylchgrawn cerddoriaeth Cymraeg arlein, yn cynnwys cyfweliadau, galeriau a llawer mwy. www.welshbandsweekly.com

Welsh Music Foundation
Wedi'i sefydlu er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru ac yn gyfrifol am gyhoeddi'r cylchgrawn 'Soundnation' bob mis. www.welshmusicfoundation.com

Wicipedia - Y Gwyddoniadur Rhydd
Fersiwn Gymraeg o'r gwyddoniadur (encyclopaedia) ar y we. Mae'n cynnwys llwythi o erthyglau ar bopeth o wleidyddiaeth, gwyddoniaeth a'r sîn gerddoriaeth Gymraeg. cy.wikipedia.org

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau uchod

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.