Mae Robin Owain Jones yn eich cyflwyno i fand Gwyliwch y Gofod ar raglen Magi Dodd bob nos Fawrth.
Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Lot o grafu tîn a gwenu yn neis!
Record cyntaf i ti brynu?
Record? Dwi'm yn cofio'r dyddiau hynny... ond gennai deimlad mai'r sengl saesneg gyntaf I fi brynnu oedd Space - Avenging Angels, a chasets Sobin oedd y rhai Cymraeg!
Gig gorau i ti fynychu a pham?
Tydio heb ddigwydd eto, ond pan neith o, yna gig Genod Droog, NAR a Gola Ola yn Stadiwm y Mileniwm fydd o.
Dy arwr/arwres?
Sion Corn - neud gymaint dros bobl eraill, a byth yn cael dim byd nol.
Be sy'n gwneud i ti grio?
Paper cuts (!) a gweld creulondeb I anifeiliaid.
Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Fel person cofiadwy!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
Dwi'n gneud trwy'r amser, yn amlach na pheidio drwy drio defnyddio geiriau Saesneg mawr I 'impressio' pobl, ond eu defnyddio yn y cyd-destun cwbwl anghywir.
Dy gas gân neu grwp?
Crêsi Ffrog - y creadur mwyaf annoying erioed I gerdded y ddaear!
Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Cefn bys ysgol ar y ffordd o Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Efo merch sydd bellach yn ffrind da - a dwi'n cofio bod yn rili chuffed chos odd yr hogia I gyd yn ffansio hi!
Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Dim llawer o ddim pan o ni'n byw adra, ond pan yn y coleg lluniau o unrhyw ferch oedd a dwy goes, dwy fraich a phen... edrych yn ol ma siwr bod o'n beth braidd yn ffrîci!
Dy 'crush' cyntaf?
Ffrind yr hogan ges i fy snog gynta hefo hi... copio off ym Mangor, a blyrtio'r llinell 'dwi'n caru chdi' allan - er mai hwnnw oedd y dêt cynta. Fuodd petha ddim cweit run fath ar ol hynny... od!
Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Erioed di ennill dim byd - rhaid I fy lwc newid rhywbryd fodd bynnag - felly dwi'n dewis y foment yn ofalus. Y loteri ymhen 8 mis ella?
Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Un mawr, du... fatha fi!
Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Crys-T 'Cau dy geg... dwi'n gwrando ar C2' - drwy'r amser (ond ddim mor ddrwg a'r crysau T Uned 5 ron I'n wisgo trwy'r amser cyn hynny)!!
Dathliad gorau erioed?
Fy mhenblwydd yn un oed - sesh gora I fi 'rioed gal - stripars a bob dim - brilliant!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

