Advertisement

Owain Llyr

Owain Llyr

Ymchwilydd, C2 Radio Cymru, Caerdydd

Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Lot o lwc a lot o waith caled, A siarad lot!

Record cyntaf i ti brynu?
Meatloaf - I'd Do Anything for Love. Embarassing iawn!!

Gig gorau i ti fynychu a pham?
Manics yn Llandudno - tyrfa o fil yn unig a fi'n un o'r rhai lwcus o sefyll reit yn y ty blaen!!

Dy arwr/arwres?
Eric Cantona / Robin Owain Jones / Gwynfor Jones (ond dim o reidrwydd yn y drefn yma!)

Be sy'n gwneud i ti grio?
Creulondeb I anifeiliaid ac I blant - a Man U yn colli!!

Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Fel ffrind da a cogydd o fri!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
Dwi'n neud bob diwrnod yn gwaith! Ond y cywilydd mwyaf erioed oedd gweld Cheryl Tweedy'n adeilad y BBC - hi'n dweud helo wrthaf a methu deud dim yn ol gan bo fi mor starstruck!!

Dy gas gân neu grwp?
Unrhyw boy band - yn enwedig Take That!!

Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Ganol cae yn Garn Dolbenmaen tra odd hi'n piso bwrw glaw ar camping trip! Romantic iawn!

Dy 'crush' cyntaf?
'Jet' ar Gladiators!

Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Pel wedi ei harwyddo gan dim Manchester United yn nhymor 1995 - 96. Mae o dal genai hyd heddiw!

Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Snickers - dwi'n nuts!!

Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
T - shirt pinc ar drip ysgol yn Ffrainc - mae lluniau'r trip dal geani! Hyd heddiw dwi ddal ddim yn gwybod pam!!

Dathliad gorau erioed?
Dathlu'r flwyddyn newydd yng nghanol Manhatten yn Efrog Newydd gyda 3 o fy ffrindiau gorau! Noson a trip anhygoel!

Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Chwaraewyr Man U a Girls Aloud (Girls Aloud dal I fod yna heddiw!)

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.