Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Sedd dobarth cyntaf ar drên y grêfi.
Record cyntaf i ti brynu?
Sai'n cofio'r un gynta' imi brynu ond fersiwn cerddorol Jeff Wayne o War of the Worlds oedd y record gynta' i mi gael fy mitts arno. The RED WEED!!!! Odd hwnna wastad yn codi ofn arnai!
Gig gorau i ti fynychu a pham?
Diwrnod ola' Reading 1999 ar y brif lwyfan. O'n i, fy mrawd a dau o'm ffrindiau lawr ar y barrier yng nghanol y llwyfan o ganol y dydd (i weld Sick of it all, Pitchshifter a Silverchair) tan just cyn i'r Offspring orffen. Y peth ola' dwi'n cofio yw neidio o gwmpas y lle ar fy mhen fy hun heb grys mlan i Suck my kiss gan y Red hot Chili Peppers.
Dy arwr/arwres?
Dim ond un arwr sydd yn y byd yma....Guitar Hero 3 ar y PS2.
Be sy'n gwneud i ti grio?
Chwerthin gormod.
Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Mae Cyngor Tonteg eisioes wedi cysylltu â mi ynglun â chodi cofadail imi ym mharc Tonteg ger y cae pel droed. Ma' fe'n mynd i gael dyfeisiau gwrth-graffiti tebyg i'r rhai sydd yn y ffilm Naked Gun.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
1af o Ionawr 2008. Sai'n siwr os yw unrhywun arall wedi cael y profiad yma ond ers ifi a Donut (canwr Ashokan) prynu Guitar Hero 3, dwi'n methu breuddwydio am unrhywbeth arall. Mae pob breuddwyd yn cynnwys cân ac wrth i'r gan chwarae mae'r nodau'n dod atai ar ffurf fretboard y gêm. Ma' fe dal yn hollol wych though!!!!
Dy gas gân neu grwp?
Dyma'r pump uchaf sy' wedi weindio fi lan yn ddiweddar....
1. James Blunt br>
2. Pete Doherty br>
3. Leon Jackson br>
4. Snow Patrol br>
5. Creed
Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Manylion y neck gynta'....
Pwy: Sian Edwards (sy' nawr ar Rownd a Rownd). br>
Ble: O dan cot rhywun ar fws ar daith ysgol i'r rinc sglefrio iâ yng Nghaerdydd. br>
Pryd: Diwrnod Sant Ffolant tra o'n i'n 12 mlwydd oed. br>
Sgor: 8/10
Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Smashing Pumpkins, Rage Against the Machine a pha bynnag posteri eraill odd yn cwmpo o ganol Kerrang.
Dy 'crush' cyntaf?
Gweler "snog cyntaf" uchod.
Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Enillais i gar (Ford Ka coch) ar beilot HTV o'r enw Claddu car (gyda Catrin Heledd off Ffeil yn cystadlu ar yr un tîm) yn 2003 ac yn anffodus dyw'r sioe ddim wedi cael ei ddarlledu. Nes i roi arian gwerth hanner y car i Catrin Heledd am ei hymdrechion gan fy mod i'n gw'boi.
Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Fudge. "A finger of fudge is all you need" ayyb.
Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Mae popeth dwi wedi gwisgo'n gyhoeddus ym gampwaith ffasiwn heb os....yn enwedig y "Y fronts" a het dewin ensemble nes i wisgo ar raglen Popcorn ac ar gyfer clawr Tacsi yn 2004.
Dathliad gorau erioed?
Mae pob dydd yn ddathliad ym mywyd Marc.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

