Record cyntaf i ti brynu?
Y record gyntaf oedd Groove is in the Heart gan Deelite neu Push gan BROS.
Gig gorau i ti fynychu a pham?
Super Furry Animals ym Mhafiliwn Llangollen oherwydd mai dyma'r gig gyntaf fawr i mi erioed fynychu - ARBENNIG!
Ym mha fand yr hoffet ti fod yn aelod ohoni a pham?
Duran Duran er mwyn cael canu'r gan Reflex (CLASUR!!)
Ym mha ffilm yr hoffet ti actio ynddi?
Pulp Fiction!
Be ydy dy gas ffilm?
Star Wars
Dy hoff gân carioci?
Deep Blue Something - Breakfast at Tiffany's
Dy arwr/arwres?
Nelson Mandella a Bono o U2
Dy gas gân a chas grwp
Cas Gân - 'Hances Felen' gan Talon - AAAAAAAAAAAAAA!
Cas Grwp - Blazin Squad
Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Fel rhywun a oedd yn gwenu drwy'r adeg!
Gyda phwy yr hoffet ti fynd am ddiod?
Robbie Williams
Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad, gyda phwy?
Dal i aros am y snog!!!!!
Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal dy ystafell gwely pan yn ifanc?
Bros a New Kids on the Block!!!
Beth sydd ar dy waliau erbyn hyn?
Baner Owain Glyndwr
Be elli di ddim byw hebddo?
Car a brwsh dannedd
Eich crush cyntaf?
Matt Goss (o Bros)!
Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Shell suit pinc!
Dathliad gorau erioed?
Parti yn Nolbadarn Llanberis pan nes i chwydu ar ben nain yn y car ar ffordd adref!!!
Lle fyddi di mewn deng mlynedd?
Yn berchennog ar gaffi Cei yng Nghaernarfon!!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

