Advertisement

Elain Edwards

Elain Edwards

Elain sy'n dod â'r 'goss' diweddaraf o LA ar C2 - pob nos Lun gyda Magi Dodd


Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Duw a wyr! Dwi'n byw'n LA, yn cyflwyno, er mod i wedi mynd i'r coleg i astudio 'Biomedical Sciences'!! Ond dwi'n hapus fod pethe wedi gweithio allan fel hyn...!

Record cyntaf i ti brynu?
"End of the Road"gan Boyz II Men

Gig gorau i ti fynychu a pham?
Stevie Wonder. Ma'r boi'n anhygoel o dalentog. Fy hoff artist.

Dy arwr/arwres?
Mam a Dad.

Be sy'n gwneud i ti grio?
Hiraeth am fy nheulu, ffrindie a Chymru.

Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Ffrind da, llawn hwyl.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
Oh, gymaint i'w rhestru...

Dy gas gân neu grwp?
Ma'n gas gen i unrhyw ganeuon 'heavy metal', neu hyd yn oed y roc sy'n ca'l eu chwarae rownd y ril yma'n America (gweiddi heb ddim melodi)!

Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Dawns Ffermwyr Ifanc yn Nolgellau! Diniwed iawn.

Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Doedd gen i 'rioed bosteri ar fy waliau.

Dy 'crush' cyntaf?
Y boi yn y ddawns Ffermwyr Ifanc (gweler uchod!)

Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Ddim yn berson lwcus iawn am ennill pethau. Falle ca'l trydydd yn yr unawd gerdd dant dan 12 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd?!

Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Ymmm... Crunchy?! Achos dan yr wyned arwynebol, ma 'ne dipyn o gic annisgwyl i mi?!

Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Trowsus a gwasgod flodeuog oren, du a phinc. Pam?!

Dathliad gorau erioed?
Yr un mwyaf gwyllt oedd pan ennillodd Cymru'n erbyn Lloegr yn y Pum Gwlad yn '99 (32-31). A'th y lle'n wyllt pan sgoriodd Gibbs! Ac o'dd hi'n go wyllt wedyn hefyd...

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.