Advertisement

Dylan Ebenezer

Dylan Ebenezer

Dylan Ebenezer sy'n dod a'r diweddaraf o fyd chwaraeon i chi bob nos Fawrth rhwng 11pm ac 1am.

Sut wyt ti wedi cyrraedd lle rwyt ti erbyn hyn?
Mewn taxi

Gêm bêl-droed orau i ti erioed fynd iddi?
Y tro cyntaf i fi weld Arsenal - o'n i'n ifanc iawn a dwi ddim yn cofio llawer, ond dyna ddechre perthynas sydd wedi para am bron i 30 mlynedd!

Be ydy'r digwyddiad mwya' doniol neu anarferol i ti gofio ym myd chwaraeon?
Maradona a'r Hand of God yn chwalu Lloegr ym Mexico 86!!!

Record cyntaf a diwethaf i ti brynu?
Shakin Stevens o'dd y record gyntaf. Yr un diwethaf odd 'Doolittle' gan y Pixies - nes i golli'r gwreiddiol rhai blynyddoedd yn ôl a ro'n i wedi anghofio pa mor anhygoel yw'r record yma.

Pwy ydy dy arwr ac arwres a pham?
Mam a Dad - y rhieni perffaith

Dy hoff dîm a dy gas dîm pêl-droed?
Hoff dîm - Arsenal
Cas dîm - Arsenal

Ym mha fand yr hoffet ti fod yn aelod ohoni a pham?
Stone Roses - er mwyn ceisio perswadio gweddill y band i beidio chwalu.

Uchafbwynt ac isafbwynt o fyd y campau i ti?
Uchafbwynt oedd Arsenal yn ennill y gynghrair yn Anfield yn '89 - cic ola'r gem - cic ola'r tymor! Isafbwynt oedd Arsenal yn colli yn Wrescam yng nghwpan Lloegr - dim pob Cymro o'dd yn dathlu'r diwrnod hynny!

Os fydde ffilm yn cael ei wneud o dy fywyd, pwy fydde'n chwarae dy ran di?
Huw Ceredig

Wyt ti erioed wedi canu carioci - lle a phryd a be ydy dy hoff gân?
Erioed wedi - ddim yn bwriadu gwneud chwaith. Ond tase fy mywyd yn dibynnu ar y peth bydden i'n canu 'American Pie' - y fersiwn wreiddiol gan gynnwys pob pennill.

Be sy'n gwneud i ti grio?
Fi yn canu carioci

Be ydy dy freuddwyd?
Bod yn hapus

Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
5 munud yn ôl

Be ydy'r peth gorau i ti erioed brynu?
Diod i fy ngwraig - bydden i ddim wedi dechre siarad 'da hi heblaw am hynny! Sori, yw hwnna'n sad?

Dy gas gân a grwp
Unrhyw gân gan unrhyw grwp sy'n ceisio canu gwlad yn Gymraeg. Dyle double act sy'n cyfieithu caneuon Hank Williams gael eu gwahardd am oes.

Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad, gyda phwy?
O'n i'n arfer cusanu posteri Arsenal ar waliau fy ystafell wely cyn pob gêm i ddod â lwc. Profiad ysbrydol! Dwi dal ddim wedi cael snog go iawn!

Dy crush cyntaf?
Arsenal

Be ydy dy 'claim to fame'?
Cael cwblhau holiadur ar safle gwe C2!

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.