Advertisement

BB Aled

BB Aled

Mae Aled ar C2 bob nos Iau gyda Magi Dodd rhwng 8-10pm. Bydd hefyd yn cyflwyno rhaglen Magi ar C2 Dydd Llun-Dydd Gwener, Awst 24-28.

BB Aled yn ateb ein cwestiynau

Sut bynnag rydych chi'n adnabod Aled Haydn Jones, mae gwrandawyr C2 yn ei adnabod fel rhywun sydd a llythrennau eraill y tu ôl i'w enw - Aled C2.

Mae Aled, sydd i'w glywed bob bore ar raglen Chris Moyles ar BBC Radio 1, nawr yn cyfrannu'n rheolaidd i C2. Bob nos Iau mae'n ymuno â Magi gyda'r pigion blasus diweddaraf o fyd y selebs, newyddion i'r eiliad sy'n gwneud i gylchgronau clecs y dydd ymddangos môr hen a phapur sglodion ddoe.

O bosib bod cyn ddisgyblion Ysgol Penweddig yn ei gofio am ei symudiadau llyfn yn dynwared un o'i ffefrynnau o blith y sêr - Michael Jackson!

"O! Na", meddai wrth sylweddoli bod aderyn bach wedi dweud ei hanes. "Am embarrassing! Nes i ennill y wobr gyntaf deirgwaith yn Eisteddfod yr Urdd yn dawnsio fel Michael Jackson. Dyna'r un person licen ei gyfarfod. Mi licen i weld pa mor 'weird' yw e go iawn. Fe'n bendant yw un o fy ffefrynnau. Tori Amos yw un arall, ond fi wedi ei chyfarfod hi gwpwl o weithie."

Mae un peth yn amlwg, mae o'n rhywun sydd yn ei elfen dros ei ben a'i glustiau yn ei swydd, swydd sy'n dod ag o i gysylltiad cyson â'r math o bobol mae'r rhan fwyaf yn gorfod bodloni ar edmygu eu lluniau mewn cylchgronau sglein neu wrando ar eu recordiau.

Madonna, J-Lo, Enrique, Noel Gallagher, Kylie Minogue, Britney Spears, Missy Elliott, Atomic Kitten, maen' nhw i gyd yn dod yn eu tro i Radio 1.

Yr hyn sy'n hollol amlwg yw brwdfrydedd Aled am ei waith, a phwy na fyddai'n gwirioni ar gael ei wahodd i lansiadau recordiau, ffilmiau a phartïon rhai o sêr mwya'r funud. Mae'n debyg i Aled ddod i amlygrwydd gyntaf fel BB Aled, neu Big Brother Aled, arbenigwr ar y gyfres pry-ar- y-wal honno. Roedd hyn yn golygu bod rhaid iddo wylio bob rhaglen ac unrhyw raglen arall oedd yn cyd-fynd â hi. Nefoedd i lawer, ac i Aled, er ei fod yn cyfaddef ei bod yn brofiad od gorfod gwylio'r rhain fel gwaith.

"Fi'n mwynhau beth fi'n ei wneud i C2 yn fawr. Fi'n lico'r ffaith bo fi yn cael gwneud rhywbeth yn Gymraeg ar Radio Cymru, a hefyd fy mod i'n cael siarad am fy ngwaith, am y launches fi'n mynd iddyn nhw, am y gossip yn Llundain ac yn y byd yma, ond gam i ffwrdd ohono fe."

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.