Advertisement
BB Aled

Beth oedd y ffilm ddiwethaf i ti weld mewn sinema?
Terminator Salvation - ffilm dda iawn.

Beth oedd y neges destun ddiweddaf i ti dderbyn?
Un gan Chris Moyles yn gofyn am list o enwau'r selebs 'da ni wedi eu gwahodd i gymryd rhan ar raglen fawr sydd yn dod lan cyn hir.

Petai ti'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i ti wneud?
Byddwn yn mynd mewn i'r White House i weld Barak Obama i wrando ar beth sy'n mynd 'mlaen tu ôl i'r drysau.

Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Ugly Betty ar y teledu.

Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Rhan fwyaf o'r pethau dwi'n dweud ar raglen Chris Moyles ar Radio 1!

Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
Big Brother - wrth gwrs!

Pa lyfr sydd wedi cael yr argraff fwyaf arnat ti?
Harry Potter.

Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Fy mol. Rhy dew - methu colli'r pwysau.

Oes gen ti lysenw?
BB Aled - gan BAWB yng Nghymru!

Pe na fyddet ti'n gweithio ym myd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Gyrru'r bws 501 o gwmpas Penparcau ac Aberystwyth neu redeg caffi mam a dad yn Aber.

Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Chris Moyles, David Dimbleby, Rupert Murdoch.

Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Does dim, fe wnaeth fy nghariad daflu popeth mas doedd e ddim yn lico mis diwethaf! Colles i hanner fy nillad!!

Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Yng Nghymru ar Bendinas uwchben Aberystwyth; yn Llundain Regent's Park a thu allan i Brydain Central Park yn Efrog Newydd.

Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Ooo, faint fydde'r loteri? Adeiladu maes awyr bach tu allan i Aberystwyth - mae'r ffyrdd o gwmpas Aberystwyth yn warthus a dwi eisiau teithio nôl adre yn amlach.

Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Hawdd, newydd siarad am hwn gyda Magi Dodd ar C2 - Zac Efron!

Pa faith ddidorol hoffet ti rannu gyda ni?
Dwi wedi bod yn dysgu Chris Moyles i siarad Cymraeg - ewch i'w glywed ar y rhaglen!

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.