- Caiff y Rownd Gynderfynol a'r Rownd Derfynol eu darlledu ar BBC Radio Cymru ac yn ystod y ddwy raglen bydd tri beirniad stiwdio yn dyfarnu pwyntiau i bob band, bydd y gynulleidfa hefyd yn pleidleisio drwy'r ffon a bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu drwy gyfuniad o bleidleisiau'r beirniaid a phleidlais y gynulleidfa. Cyhoeddir manylion y canrannau yn fuan.
- Drwy'r ffôn yn unig y mae modd pleidleisio a chaiff y rhifau a'r dull o bleidleisio eu hybu ledled gwasanaethau BBC Radio Cymru gan hefyd fod ar gael ar wefan BBC Radio Cymru a gwefannau'r Mentrau Iaith.
- Caiff y Rownd Gyn-Derfynol eu darlledu ar wasanaethau BBC Radio Cymru ar Fawrth 25, 26 a 27 2009 rhwng 20.00 a 21.30 gyda'r llinellau ffôn yn agor am 2130 a chau am 2330. Ni fydd cyhoeddiad yn cael ei wneud cyn 2415.
- Caiff y Rownd Derfynol ei darlledu ar C2 ar BBC Radio Cymru am 20.00 Ebrill 29 2009 gyda'r llinellau ffôn yn agor am 21.30 a chau am 23.30. Ni fydd cyhoeddiad yn cael ei wneud cyn 24.15.
- Mae'r pleidleisiau ffôn yn agor a chau fel nodir uchod. Ni chaiff pleidleisiau a dderbynnir tu allan i'r amserau yma eu cyfri, er efallai y byddant yn costio arian. Fe all yr amseroedd pleidleisio newid.
- Caiff pleidleisiau eu cyfyngu i 5 pleidlais y rhif ffôn.
- Ni fyddwch yn gallu pleidleisio os ydych yn gwrthod datgelu eich rhif ffon. Os nad yw eich rhif yn cael ei ddatgelu, bydd angen i chi ail-alw gan ddeialu 1470 cyn y rhif pleidleisio.
- Yn achos bandiau yn derbyn pleidleisiau cyfartal yna cadeirydd y panel beirniadu fydd â'r bleidlais derfynol.
- Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ganslo neu atal pleidleisiau unrhyw adeg.
- Mae pob pleidlais ffôn yn costio 15c o linell BT. Gall galwadau o ffonau symudol a rhwydweithiau eraill fod yn uwch.
- Rhaid i'r rheiny sy'n pleidleisio gael caniatâd yr un sy'n talu'r bil ffôn cyn pleidleisio.
- Mae gan y BBC yr hawl i ddiarddel pleidleisiau os oes ganddi amheuaeth bod pleidleisio twyllodrus wedi digwydd neu os yw'n amau bod ymgais wedi bod i drefnu'r pleidleisio.
- Ni all y BBC, ei hisgontractwyr, is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol neu ddiffygion neu unrhyw broblem gydag unrhyw rwydwaith ffôn neu linell, system, gweinyddwr, darparwr neu arall allai arwain at golli pleidlais neu bleidlais heb ei chofnodi.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

