Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Steffan Cravos

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 7 - 10 Ebrill 2008, sef Steffan Cravos.

Ar nos Iau, Ebrill 10fed, daeth Steffan ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd.

Chwalwn Ffasgiaeth

Chwalwn ffasgiaeth
Nid yw'n cynnig dim gweledigaeth
Dim ond atgasedd
Yn troi a throsi mewn anwybodaeth
Dynion treisiol a hiliol
Yn honni eu bod nhw o blaid cyfraith a threfn
Mae ei eidioleg yn seiliedig ar drais ag ofn
Rhaid i ni sicrau ein bod yn atal Nick Griffin
Atal nhw ym Madrid, Prâg a Milan
Does ganddo nhw ddim bwriad i ddatrys dim byd
Does gan y ffasgwyr ddim yr ateb
Rhaid i'r gymuned uno a threfnu
Er mwyn atal llais eu casineb
Rhaid eu chwalu
Rhaid eu hatal rhag tyfu
A'i dagu

Methiant y pleidiau gwleidyddol
A'i polisiau rhyddfrydol
Yn bwydo fflamau casineb y BNP
Sy'n tyfu
Drwy ymosod ar grwpiau lleiafrifol
Ond bellach nid yn dresiol a thorcyfreithiol
Nawr mae nhw yn cuddio tu ôl i siwtiau sgleniog
Y ddelwedd newydd yr wyneb derbyniol
Ac ma'r casineb parchus yn dechrau enill tir
Celwyddau wedi lapio mewn rhagfarnnau - dyna'r gwir
Mae nhw yn gwadu naeth Holocoust Iddewig ddigwydd
Yn gwadu'r siamberi nwy ar ffwrnesi
Mae Griffin yn dweud ei fod yn gelwydd
Trideg mlynedd yn ôl roedden nhw mewn mewn crwcyts
Yn salwtio a martsio yn ei breisis a'i jacbwts
Chwalwn ffasgiaeth
Sdim lle iddo fe ym Maes Gerchan
Sdim lle iddo fe yn Wrecsam
Sdim lle iddo fe ym Mae Colwyn
Rhaid i ni sicrau ein bod yn atal Nick Griffin

Steffan Cravos (10.04.08)

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.