Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 3 - 7 o Fawrth 2008, sef Rhys Iorwerth.
Ar nos Iau, Mawrth 6, daeth Rhys ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd. Yn ôl Rhys, fe ysgrifennodd y gerdd ar ôl hedfan yn ystod yr wythnos, am y tro cyntaf, o Gaerdydd i Ynys Môn "wedi blynyddoedd o syrffed yr A470!"
O'r Barri i'r Fali'n Sir Fôn
Am fod yr hen lôn honno
yn gyrru gŵr wir o'i go,
a rheidrwydd troi'r car adre
ar daith hir o dir y de'n
ddigon i wangalonni'r
mwyaf llon ohonon ni...
Heddiw, mi gefais ryddid,
a gweld gwyrth ein gwlad i gyd
drwy len awyren a oedd
yn addysg uwch mynyddoedd.
Gweld pob cwm a gweld pob cae
fyny o'r uchelfannau,
a darnau o'r hen deyrnas
draw i Lŷn drwy'r awyr las.
Ymylon y cymylau
a heulwen uwchben y bae,
ac yn y man, gwenai Môn
ar wely o orwelion.
Tua'r llawr, at dir y llain,
ehedwyd ar ddwy adain
drwy'r aer, a thystiai'r oriawr,
hyn i gyd mewn llai nag awr!
Am fod yr hen lôn honno yn gyrru gŵr wir o'i go,
heddiw mi gefais ryddid
a gweld gwyrth ein gwlad i gyd.
Lle bu laru ar y lôn,
y tir uwch yw'r entrychion!
Rhys Iorwerth
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

