Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Nici Beech

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 04 - 08 Chwefror 2008, sef Nici Beech.

Ar nos Iau, Chwefror 07 2008, daeth Nici ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd.

Ysgrifennodd Nici y gerdd pan gollodd gysylltiad gyda'r rhyngrwyd, ac iddi sylweddoli ei bod yn gaeth i safle gwe 'Facebook'!

Colli Cysylltiad

Ers hanner awr 'di pedwar
Mae 'myd di stopio troi
A gwawrio mae'r gwirionedd
Na fedra'i mo'i osgoi.

Mae'n dechrau'n ôl pan o'n i
Yn hogan ifanc ffôl
Yn mynd bob man i gigs Cymraeg
Ar antur Roc a Rôl.

Mi fum i yn llythyru
A rhannu fy mwynhad
Efo ffrindia dwl a difyr
Ar hyd a lled y wlad.

Roedd 'na ofal wrth ddewis y papur
Rhai coch, glas, du a phinc
Er mwyn dal cyffro'r geiriau
A'r angerdd yn yr inc.

Mi fum i'n frwd am gyfnod maith
Trwy'r ysgol a thrwy'r coleg
Ac mae 'niolch i'n fawr i'r ffrindiau hyn
Am ddatblygiad fy nwyieitheg.

Wrth i'r gwaith fy 'mestyn i
A'r ffrindiau yn cynyddu
Amser aeth yn rhywbeth prin
A phrinach fyth llythyrru.

Ac am flynyddoedd wedyn
A'n pennau dros bob man
Mi ddaeth 'na bellter rhyngthom
A'r cyswllt aeth yn wan.

Ond nawr mae'r cyswllt nôl yn gry'
Yn gafael fel hoff gyffur
A'r hen wynebau'n dod ynghyd
Drwy gyfrwng cyfrifiadur.

Ac erbyn hyn mae cannoedd
O ffrindiau ar fy nglin
A rhannwn y dwl a'r difyr
O'n bywydau dros y sgrin.

Ydw, dwi'n gaeth i Facebook
A hebddo dwi'n anabl.
Dwi angen gwybod be mae pawb yn neud.
Dwi angen chwarare sgrabl.

Ond ers hanner awr di pedwar
Dwi'n flin fel tincar mawr,
A dwi'n colli cysylltiad eto
Achos mae'r blydi we i lawr.

Nici Beech

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.