Ar nos Iau, Medi 04, fe ddarllenodd Bardd yr Wythnos, Nia Môn, ei cherdd newydd ar raglen Dafydd Du ar C2.
Ysgrifennodd Nia y gerdd am Dylan Thomas, ar ôl bod i weld y ffilm 'Edge Of Love'.
Dylan
Am ei fod yn fardd...
mae gwylanod yn gwyn yn ei ben,
tonnau'n torri'r ysbryd
a heli'n gadwynau'n ei waed.
Am ei fod yn fardd.
Am ei fod yn fardd...
mae'n hyrddio ceiniogau cyfrifoldeb
i waelod gwydrau
wrth ymdrybaeddu ynddo ef ei hun -
am ei fod yn fardd.
Am ei fod yn fardd...
mae mwg a minlliw
yn sugno'i ddawn a'i ddagrau
hyd ffenestri'i enaid;
am ei fod yn fardd.
Am ei fod yn fardd...
mae brad ym mhob addewid,
a charu a chwarae'n un
wrth glymu'r geiriau.
Am ei fod yn fardd.
Nia Môn
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

