Advertisement

Bardd yr Wythnos

Mathew Hywel Rees

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 5 - 8 Mai 2008, sef Mathew Hywel Rees.

Ar nos Iau, Mai 8fed, daeth Mathew ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd.

Machlud

Dyma fi
Yn hedfan dros Wlad yr Iâ
Yng nghanol mis Gorffennaf
A hithau'n hanner nos,
Mae'r haul yn gwenu arnaf

Syllaf drwy'r ffenest
At y tirwedd enwog ddisymwth.
Tirwedd emosiynol i'r enwog Bjork
Eisteddaf yma'n gegrwth

Ac yna, rwy'n meddwl i'm hun,
Dyma sefyllfa ddelfrydol i fyfyrio neu gyfansoddi
Gallaf ysgrifennu cerdd am yr hyn rwy'n ei weld
Am y llosgfynyddoedd oddi tanom.

Neu beth am rigwm neu naw am y rhewlif gerllaw
Am ei ogoniant, ei fawredd ei oerni pell

A chymharu'r hyn oll gyda hen Gymru fach
Neu beth am lymder hen berthynas?
Neu am hen ffrind coll, efallai?
Neu beth am atgof arbennig o'm plentyndod hyd yn oed?

Trosiad fan hyn, cymhariaeth fan draw
Cyflythreniad neu ddau efallai
(I gadw'r athrawon Cymraeg yn hapus, wrth gwrs)

Ond y peth yw
Ond y gwirionedd yw
Y gwir amdani yw

Bod yna rai profiadau nad oes modd eu rhannu mewn geiriau.

Diolch byth nad yw'r haul yn machlud yma -
Un peth yn llai i ysgrifennu amdano.

Mathew Hywel Rees (08.05.08)

Gwrando

Gwrando'n fyw

Ymlaen nawr: C2: Magi Dodd (20:02-22:02)

Jeni Lyn yn cicio drysau C2 ar agor gyda'i sodlau uchel!

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.