Ar nos Iau, Tachwedd 29, fe ddarllenodd Bardd yr Wythnos, Mari Sion, ei cherdd newydd ar raglen Dafydd Du ar C2.
Ysgrifennwyd y gerdd wedi i Nain Mari, sydd yn ei 90au, weld cauliflower piws am y tro cyntaf mewn marchnad yn Nolgellau, gan wirioni'n lan a phrynu un.
Rhyfeddu (i gauliflower piws Nain)
Mor lwyd yw'n byd a'r brydiau,
mor gaeth yw ein diwrnodau,
wrth ruthro a'r frys
ar un ras wyllt,
gan fethu'r man ryfeddodau.
Fel y llysiau a fu'n gudd,
y coli piws a'r farchnad stryd,
ei liw a'i wedd
yn llonni'i dydd.
Rhyfeddu sy'n ein gwneud yn rhydd.
Mari Sion
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

