Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Marged Parry

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 31 Mawrth - 3 o Ebrill 2008, sef Marged Parry

Ar nos Iau, Ebrill 3ydd , daeth Marged ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd.

Dwi'n teimlo fel bod lot o blant (a fi!) y dyddiau hyn yn trio tyfy i fyny yn rhy gloi. Mae'r gerdd am y dryswch rhwng yr angen hwnnw i chwarae a'r hunan-ymwybyddiaeth sy'n ein stopio ni pan rydym ni'n tyfu.

Carwsél

Mae ffuglen ffair o'r oes a fu ar drothwy y pier gerllaw.
Trigaf yn hiraethus o'i gwmpas yn graff. Mae bariau metel
Yn rhwymo ei unigrwydd. Carwsél wedi cau, mor ddistaw
Yn wag, yn wan ac yn chwil. Ond crechwen gaiff hwn cyn ei ddymchwel.

Dringaf trwy'r bariau a chamu ar y pren perlog a'i graciau.
Nid yw'n troi nac yn trio troelli, mae traul amser am ei draed
Wrth feddwl am berchen ar esgidiau bach parchus a chwarae,
Yn slei, af o geffyl i geffyl. Cerddaf heb drot ac heb naid.

Mae melyn Eifftaidd yn edafedd aur ar ebolion lliwgar
Ond mae coch gwaed wedi edwino yn goch blwch ffôn hen ffasiwn.
Fy ngwallt mewn plethi melyn a mymryn o'r gorffennol yn sbâr,
Cuddiaf ymysg cysgodion llachar. Teimlaf embaras am hwn.

Pryd ddigwyddodd hyn? Pryd fu miri yn ddieithryn a chosbi
Chwarae. Mae'r byd go iawn yn troi o'n cwmpas yn ddu a gwyn glân.
Ai fi sydd tu hwnt i'r breuddwydio barddonol, yn ofni sbri
Neu'r chwrligwgan fud? Mae dychryn mewn dychymyg heb degan.

Mae llipryn lliwgar y pier yn hiraethu am hwylustod
Ond nid fi sydd yn ei gynnig iddo heno. Rwy'n gywilydd.
Mae llaid y bae yn bellter i'r bwgan. Mae'n gwisgo mudandod
Y nos yn glogyn gloyw i'w fframio rhag bywiogrwydd y dydd.

Marged Parry (03.04.08)

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.