Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Lois Barrar

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 11-15 Chwefror 2008, sef Lois Barrar.

Ar nos Iau, Chwefror 14 2008, daeth Lois ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd.

Y sbardun i ysgrifennu'r gerdd hon yw'r teimlad o hunan-dosturi mae Lois yn ei gael ar nos Sul, "pan fo dydd Llun yn galw - y penwythnos drosodd, a'r teimlad o ddim bod eisiau mynd i'r gwaith..."

Bardd yr Wythnos

Mae'n siŵr gen i, rwy'n sicr, ers cyn co',
Mai yn nüwch nos Sul taniwyd pob chwyldro.
A nos Sul diwethaf ces i drawiad od,
Fe gynnwyd ynof i ryw chwyldro hynod.
Neidiais ar ben wal ymhen draw'r ardd,
A datgan yn daer "Rwyf am fod yn fardd!"
Fe hysbysais holl drigolion y stryd,
Mod i Lois Barrar am newid y byd!

Fe ruthrais i'r swyddfa, heb gysgu winc,
At cupasoups a'r memos am brinder inc.
Camais drwy'r drws yn ddramatig farddol,
A datgan yn y cyfarfod boreol -
"I'm a poet
Now I know it
I quit!"

Rhois derfyn ar dalu aelodaeth i'r gym,
A binio'r sports bra a'r trainers bach gwyn.
Taflais dwy stôl, y bean bag a'r soffa;
Bydd gen i gadair rôl Steddfod nesa.
Gwerthais y Polo am geffyl a chart;
Smo fe mor glou ond ma'n edrych y part.
Diffoddais Eastenders a Dragon's Den,
Er mwyn disgwyl ymweliad yr awen!

Rwyf yn y dafarn bob dydd erbyn tri,
Yn canfod awdlau mewn potel wisgi.
Rwy'n bytis 'da phrifeirdd ifanc a hen,
Sy'n lico gweud "difyr" wrth fwytho'u gen.
Sgwrsiaf yn werinol am y werin o hyd,
Mewn gwasgod a chap a sbectol haul drud.
Sdim angen y sgrin clin na'r George Foreman grill,
Mae gen i fanjo a phib, a dwi'n sgwennu da cwîl!

Felly dyma fi - bardd barddol o fri,
Yn creu cywydd ar gywydd, englynion lu.
Yng Ngwalia farddgar, y bardd barddocaf o fil,
Yn fardd bythol, wel, o leiaf tan nos Sul.

Lois Barrar

Gwrando

Gwrando'n fyw

Ymlaen nawr: C2: Lisa Gwilym (22:30-02:00)

Lisa Gwilym yn cyflwyno sesiynau acwstig, artist yr wythnos a'r diweddaraf o'r sîn gerddorol.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.