Ar nos Iau, Tachwedd 22, fe ddarllenodd Bardd yr Wythnos, Llion Roberts, ei gerdd newydd ar raglen Dafydd Du ar C2.
Cawod
Syllu tua'r nen,
a chanfod y düwch
yn ddiwahaniaeth,
ddiedifar
wlyb;
er cyrraedd cysgod,
teimlo
ias ei ddagrau'n
rhaeadru
ar wydr y galon,
fel drych;
mentro eto,
ac er pob gofal,
gwlychu'r traed
ym mhyllau dadrith.
Nid felly
mo'r hafau
na hawliant
benawdau breision
trychineb
ar wefan atgofion,
pan fyddai'r awyr las
yn cael sgil
ar echel ôl y beic,
a phicnics
brechdanau'r twyni'n
rhoi blas y môr
ar dafod;
y tes
yn gynnes felys,
fel dracht ola'r
botel bop,
a throchfa'r don gyntaf
yn unig
yn tynnu cryndod,
am ennyd,
cyn dod i arfer
â'i hanwes.
Wedi'r peidio,
a'r cymylau'n cylchu
drachefn,
daw'r haul
i chwarae mig,
cyn croesi'n betrus
enfys
yr eiliadau coll,
a hel adre'i
belydrau o ledrith.
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: C2: Hefin Thomas (23:02-01:00)
Goreuon 2009 - Hefin Thomas yn dewis y clipiau gorau sydd wedi ymddangos ar Pod C2 eleni.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

