Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Iwan Rhys

Dyma gyfle i ddarllen cerddi newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 14-18 Ionawr 2008, sef Iwan Rhys.

Ar nos Iau, Ionawr 17 2008, daeth Iwan ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerddi newydd.

Fe ysgrifennodd Iwan bedair englyn - un bob diwrnod o'r wythnos (Dydd Llun i Ddydd Iau). Mae'r englyn olaf yn un arbennig iawn iawn...

Dydd Llun 14eg Ionawr

Fe ddarllenodd Iwan stori mewn papur newydd am bigiad sy'n dod yn boblogaidd yn America sydd, yn ôl pob tebyg, yn "torri brasder y corff i lawr".

Dim ond braster 'di haneru, symud
unrhyw saim i'r neilltu
a rhoi tuth rownd cwr y tŷ
wna i floneg ddiflannu.

Dydd Mawrth 15fed Ionawr

Sôn am daith hir Iwan o Fanceinion i gyfarfod ei ffrindiau yn Aberystwyth.

Bu sawl newidiad i drefniadau'n taith
ond taer ydym ninnau
ac am fynd dros holl gamfâu'r
dyffryndir i weld ffrindiau.

Dydd Mercher 16eg Ionawr

Englyn yn arbennig i Dafydd Du, am y "fraint o fod yn Fardd yr Wythnos".

O'i glywed yn darlledu ei fiwsig
dros holl feysydd Cymru
ein cenedl oll sy'n canu'n
rhydd diolch i Dafydd Du.

Dydd Iau 17eg Ionawr

Cwestiwn arbennig i'w gariad Angharad.

Dyma 'nghwestiwn: ysgwn-i, Angharad
fy nghariad, os cymri
di'r aur sy'n fy modrwy i
a wedyn fy mhriodi?

I glywed mwy am y gerdd arbennig olaf - pan ofynnodd i Iwan i Angharad ei briodi, cliciwch yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.