Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Hywel Griffiths

Ar nos Iau, Tachwedd 15, fe ddarllenodd Bardd yr Wythnos, Hywel Griffiths, ei gerdd newydd ar raglen Dafydd Du ar C2.

Mae'r gerdd, yn ôl Hywel, yn trafod "cyhoeddiadau Gordon Brown yr wythnos yma - yn benodol lle dwedodd e 'terrorism could hit us anywhere at anytime.' Yn fy marn i mae'r llywodraeth yma yn trio cadw'r wlad mewn awyrgylch o ofn parhaus er mwyn ein hatal rhag meddwl am bethau eraill ac i gwestiynu materion eraill heblaw terfysgaeth."

Ofnau

Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd,
a rhyddid wedi'i fygwth ar bob tu,
pan fo cysgodion ar y ffyrdd i gyd
a phob un cornel stryd yn gysgod du,
pan nad oes dim ond dychryn ar y sgrîn
a dim ond nos yr ochr draw i'r llen,
pan fo pob ffrind yn sinistr a blin
a'r rhai mewn grym yn gweld y byd ar ben,
diffoddwch y teledu am y tro,
agorwch lenni'r lolfa led y pen,
cofleidiwch yr anwybod, ewch ag o
tu allan ar y stryd fel cyllell wen
i dorri trwy hualau'r ofnau sydd
yn cadw pawb yn saff rhag bod yn rhydd.

Hywel Griffiths

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.