Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Gwyneth Glyn - Llun Jon Pountney

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 18 - 22 o Chwefror 2008, sef Gwyneth Glyn

Ar nos Iau, Chwefror 21 2008, daeth Gwyneth ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd.

Yoga

Os ti'n sdresd, dan straen, ac yn teimlo'n blaen,
Os di'r byd ar ben a dy ben yn dy blu,
trawa dy shryg a dy Uggs ymlaen
a legia hi draw yn dy legins du.

Ti'n nabod neb a 'sna neb yn dy nabod
a ma'r miwsig 'new age' yn gneud iti chwerthin,
ond wrth suddo i synnau'r synths a'r morfilod,
ti'n teimlo rwsud dy fod titha'n perthyn.

Dwi'n sefyll yn gadarn yn safiad y mynydd
gan dynnu'n dynn fy nhimpws nobl,
cyn codi 'nghoes a'i chryndod ar gynydd
i safiad y goeden, a honno'n llawn wobl.

Dwi'n gi, dwi'n gath, dwi'n 'sgodyn, dwi'n seran,
dwi'n gobra, dwi'n gamal, a gin i goblyn o wejan.
Ond ma'r meddwl yn llonydd a'r corff yn llacio,
ac wrth orwedd yn fflat ar fy mat i ymlacio
dwi'n ymroi yn llwyr i'r morfil a'i udo,
a does dim byd yn bod, dim ond llais yr athro.

Mae f'anadl yn araf lifo
trwof, a dwi'n llwyr anghofio
am bob synnwyr a phob sŵn,
am swnian y seiran a chyfarth y cŵn.
Mae mhoenau'n hedfan i ffwrdd fel balŵn;
dwi'n glir ac yn glud tu mewn i 'nghocŵn,
ymhell o bob siarad a sioe a siom
mewn hedd yn nhawelwch perffaith Om... Om... Om...
O mam bach ma 'na rech hir swnllyd
yn rhwygo'r heddwch, yn rhacsio 'mreuddwyd!

Ma surni soya ac ogla hen sanna
yn fy neffro o wynfyd y nefol Nirfana.
Mae'r straen yn ei ôl, a'r hedd 'di hen ddarfod.
Ma'r dosbarth cyfa yn dwrdio'r drewdod:
pwy ydi'r sglyf sy 'di styrbio'n myfyrdod?
Pa fwngral feiddiodd ymlacio gormod?

Ma'r miwsig yn diffodd, a'r golau'n ein dallu.
Ond pam mai arna i ma pawb yn syllu?

Gwyneth Glyn

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.