Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Gwennan Evans

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 21 - 24 Ebrill 2008, sef Gwennan Evans.

Ar nos Iau, Ebrill 24ain, daeth Gwennan ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd.

A tu ôl i'n tŷ ni ym Mangor Uchaf, mae rhes hir o finiau ac mae'r gilfach hon wedi datblygu yn lle poblogaidd ymysg rhai o'r trigolion lleol! Yr wythnos diwethaf, roedd criw o ieuenctid wedi cynnau tân yno a dros y penwythnos fe welon ni wiwer anferth gyda bagét mwy na hi ei hun yn ei cheg yno! Fe fethon ni gael hyd i dafarn oedd yn dangos y paffio nos Sadwrn, ac oni fyddai hi wedi bod yn grêt pe baem ni wedi cael gornest bersonol i'w gwylio wrth fwyta ein têc-awê yn y gegin ar ddiwedd y noson...

Y Wiwer

Nos Sadwrn, wrth edrych o ffenest y gegin
Fe welais olygfa go anghyffredin.

Roedd Chavs Bangor Ucha' a gwiwer yn paffio
Yn wa'nol i'r Hwdi's, doedd gan y wiwer ddim ASBO.

Y wiwer farus ddechreuodd y gynnen
Wrth fentro i fin ar diriogaeth eu tomen.

Ond buan y gwelodd ei gwall, a'i thranc
Oedd trengi'n ei thrachwant, wrth y septig tanc.

A'i bwyta a wnaeth y gwrthgymdeithasol
Griw yn awchus, o'i chorun i'w... caserol,

Aeth i'w stiwio yn frau
A'r llysfwytawyr a rostiodd ei chnau.

Yr unig ran na roed yn y crochan
Oedd y rhan s'yn debyg i fwstas Tecwyn Ifan.

Fe roddon nhw honno ar farbiciw i gwcio
Ar frigyn hir, fel candi fflos wedi llwydo.

Ond sai'n credu y plesiodd y flewog snac
Achos fore dydd Sul, wrth ddrws y bac,

Roedd y saig 'on a stick' yn gyfan o hyd
Yn grair i'm atgoffa o sgarmes ein stryd.

Gwennan Evans (24.04.08)

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.