Yn dilyn marwolaeth trist Ray Gravell bu Guto Dafydd, Bardd yr Wythnos ar C2, yn talu teyrnged i'r arwr rygbi a'r darlledwr o Fynydd-y-Garreg.
Gwrando ar Guto yn darllen y gerdd
Nos Da Grav
Dwi'n styc rhwng amau a choelio,
dwi jyst yn methu dallt,
'sna ddim byd yn gwneud synnwyr
a ma 'mocha fi'n troi'n hallt.
Ma'r llwch yn dawel ar bob stryd,
a rhywbeth wedi siglo'r byd.
Mae'n ddistaw ar y Strade,
maen nhw'n sibrwd dros Gymru i gyd;
mae'r wlad yn dristwch heddiw,
yn ystrydebion mud
a neb yn gallu dweud yn iawn
y bwlch o golli'r Cymro llawn.
Mi wn ei fod o'n Gymro,
yn Geidwad, yn Lyndŵr,
yn danbaid ac yn Sgarlet,
ond dydw i ddim yn siŵr
oes mwy i'w ddweud dros enw Ray
na 'mod i'n crio hefo gwên.
Mae 'na rai sy'n sgwennu englyn,
a rhai yn canu cân,
mae 'na rai sy'n crio-chwerthin
wrth gofio'r pethau mân,
a 'ngwash-i'n chwara pêl 'fo'i ffrind
i drio dallt bod Grav 'di mynd.
Awn i Gaerdydd i'r Steddfod;
awn hebddo i ddathlu'r ŵyl,
at Orsedd heb ei Cheidwad,
at far - ac yn yr hwyl,
bydd yno, a'r holl gymylau'n hel
yn bell o wyneb Ray Gravell.
Guto Dafydd
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

