Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Geraint Rhys Edwards, Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 11 - 15 Awst 2008.
Ar nos Iau, Awst 14, daeth Geraint ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd.
Ysgrifennodd Geraint y gerdd am daith flynyddol ef a'i deulu i Lanuwchllyn i ymweld a bedd ei Daid, a fu farw farw cyn iddo gael ei eni, ond eto mae'n teimlo agosatrwydd tuag ato yno.
I'r Fan Lle Llusgai Ein Traed
Llusgai traed ni'n tri
drwy barrug mis Rhagfyr,
a'r haul oer yn codi
sglein ar y llechi gwlyb,
yr Aran ar ei ben glin
a'r llyn yn syllu tua'r cymylau.
A dyna ni ger ei droed
yn edrych tuag ato,
edrych ar enw
a rhifau'r dyddiau prin
a saib yn lonydd rhyngom.
Sefais yn fud,
dim i'w ddweud,
wedi'r cyfan dwi ddim yn ei gofio,
ni ysgwydais ei law,
clywed ei lais,
rhannu jôc,
adrodd stori,
ni chwrddais i 'rioed mohono.
Ond, wrth gerdded oddi yno
fe'm tarwyd yn y fan,
-ni gwrddais ag ef erioed 'mond ei garu.
A dyna ni'n tri yn llamu drwy'r rhew
a'r haul oer yn gwenu'n glên
a'r Aran yn penlinio.
Geraint Rhys Edwards
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

