Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Eurig Salisbury, Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 15-19 Hydref 2007.
Ar nos Iau, Hydref 18, daeth Eurig ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd. Dyma destun ei gerdd, yn ôl Eurig:
"Yn ddiweddar cyhoeddodd Cyngor Dinas a Sir Abertawe eu penderfyniad i godi arwyddion uniaith Saesneg ar gylchfan Ynysforgan, a'r wythnos hon cyhoeddodd y Cyngor eu dewis o enw ar gyfer canolfan hamdden newydd yn y ddinas - The L.G."
Helynt Ynysforgan
Yng Nghymru mae 'na ynys
Nad yw hi yn y môr,
'Does angen cwch i'w chyrraedd,
Mae hon ar yr M4.
Mae sôn fod arni gylchfan
Sy'n sgleinio yn y glaw,
Lle mae'r holl Gymry bach yn troi
A throi yn ddi-ben-draw.
Oherwydd yn eu hunfan
Mae pawb fan hyn yn troi,
Dwi weithiau'n teimlo'n sic o'u gweld
Nhw'n mynd i nunlle'n gloi.
Ond cyn i boen y bendro
Gymylu 'ngolwg i,
Dwi'n sylwi ar ynys arall
O'r enw The L.G.
A be' mae L.G.'n dynodi
Ar ben yr ynys hon?
Ai Lazy Gits, ai Lot o Gost,
Neu falle Language Gone?
Ond cofiwch hyn o gysur
Wrth fynd o sign i sign,
Aeth Gwales ac Afallon
Ar goll, ond nid y rhain,
Dilynwch yr arwyddion
O bell at gylchfan ddrud,
A churo, curo tonnau coch
Ar lan yr ynys hud.
Eurig Salisbury
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: C2: Huw Stephens (22:02-23:02)
Huw Stephens yn cyflwyno'r gerddoriaeth newydd orau o Gymru a thu hwnt.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

