Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 17 - 21 o Fawrth 2008, sef Ed Holden.
Ar nos Iau, Mawrth 20fed, daeth Ed ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd (rap!) newydd.
Yn hytrach na chyfansoddi cerdd / rap am un pwnc amserol pennodol, mae Ed yn son am sawl pwnc gwahanol: Cymru'n cipio'r Gamp Lawn ym mhencampwriaeth rygbi'r 6 gwlad, y ferch fach, Shannon Matthews yn cael ei darganfod yn saff, a'r 'riots' yn Nhibet.
Rap Ed Holden
Yo, rap i Daf Du amdan petha amserol,
Peth gynta dwi am son am yw rwbath o'r gorffenol.
Uffernol, oedd Ffrainc ar y cae,
Yn erbyn y wal coch, dim gobaith o parhau.
Un neu dau cic ond dim gobaith o try,
Ffrainc yn cael sioc fel cic yn y cnau.
Chabal di aros adra gwylio'r gem ar y teledu,
Sa Dunc ac Adam Jones di saethu trwydd a fo fel bwledi.
"They are not ready" dyna be ddudodd y Sais,
Ond chwalodd Cymru Ffrainc hefo un, dau cais.
Rhedodd Ffrainc i ffwrdd, nol o dan y graig,
Nol i Ffrainc, ofn tafod y ddraig.
Ye, ye, chwythu tan dros y pitch,
Sa Chabal di chwarae sa fo di cael stich.
Cymru di'r tîm gora, does dim cwestiynau pam,
A dyna pam currodd Cymru y Grand Slam.
Symud ymlaen, be arall digwyddodd, oh ye, hang on,
Wnaeth y chi gyd clwad amdan y hogan ifanc na, Shannon?
Hogan bach di cael i bachu, news ar y teli,
Cael i ffeindio tri wythnos wedyn yn cuddiad o dan gwely.
Hynan crazy! proper chwalu y set,
Ond dio'm mor crazy a riots yn Tibet.
Riot yn erbyn China rwbath 'fo Dali Lama,
Swn i'n canol hyn swn i'n goro rhedeg o na.
Lawr i California, wedyn nol adra,
Chillio allan yn wlad ein Nhadau.
A dyna ni, dwi'n symud i mewn i'r dyfodol,
Dyna chi rap cerdd amdan petha amserol.
Ed Holden (20.03.08)
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

