Advertisement

Bardd yr Wythnos

Dewi Prysor

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Dewi Prysor, Bardd yr Wythnos ar C2

Ar nos Iau, Mehefin 26, daeth Dewi ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd. Testun ei gerdd oedd penblwydd Nelson Mandela yn 90 oed:

Nelson Mandela yn 90 oed

pan ddaw fy afon i sefyll
yn llonydd mewn llyn,
pan dry 'mreuddwyd yn ferddwr
a'm rhuthr yn ddim,
pan rwd fy olwynion
a phydra fy ffydd,
mi gofiaf Mandela
yn ennill y dydd.

pan dderbyniaf gamweddau
fel ffeithiau rhad,
pan af heibio'r ffordd arall
â 'nghamau yn frad,
pan gny fy nghydwybod,
a niwlog y bo,
mi gofiaf Mandela
a'i aberth o.

a phan fydd cymylau'n
tywyllu fy mharth,
y nos yn ddi-seren
a'r bore yn darth,
pan fyddaf yn cwyno
nad yw pethau'n well,
mi gofiaf Mandela
a'i dair degawd mewn cell.

mae'n hawdd colli 'wyllys,
mae'n hawdd colli ffydd
a derbyn mai'r ffyliaid
fydd yn ennill y dydd;
ond cofiaf, o'r newydd,
fod gobaith i'r byd,
pan welaf Mandela
yma o hyd.

Dewi Prysor

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.