Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 25 - 29 o Chwefror 2008, sef Ceri Elen Morris
Ar nos Iau, Chwefror 28, daeth Ceri ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd.
Yn ôl Ceri, fe ysgrifennodd y gerdd, oherwydd "ryda ni'n clywed am gymaint o filwyr yn cael eu lladd yn y rhyfel ar hyn o bryd, a dwi just yn meddwl peth mor amhersonol mae papur yn medru gwneud allan o farwolaeth, a thybed sut mae mam y milwyr yma'n teimlo."
Hen Blant Bach
Heno heno hen blant bach
Yn strach y bywyd hwn,
Y byd a gwymp i'w liniau'n ddall
Yn sŵn pob clec o'r gwn.
A maes y gad yn gwaedu'r llefain
Yn fain dan aden y gwynt
A hynt pob mab yn ddagrau inc.
Y Gododdin am bunt mewn print.
Gwely, gwely hen blant bach
Yn afiach hunllef fyw
A'i fam a gwymp i'w gliniau'n fud
I alaru gyda Duw
A chroth ei fam yn gwaedu'r llefain
Yn fudur fachlud friw
A hynt ei mab yn lliwio'r sgrîn
Yn edliw yn ei chlyw
'Fory, 'fory hen blant bach
Faint elwach fyddwn ni?
A'r byd yn mygu yn y llwch
Yn rhy hwyr i weiddi'r sori.
Ceri Elen
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

