Advertisement

Bardd yr Wythnos ar C2

Catrin Siôn

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 22 - 25 o Fawrth 2008, sef Catrin Siôn.

Ar nos Iau, Mai 22ain, daeth Catrin ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd.

Mae'r gerdd yn sôn am y digwyddiadau diweddar yn Awstria.

Elisabeth


Dim ond unarddeg oeddwn i
gwêl anghenfil yn ei gysgod,
dim ond plentyn oeddwn i
yn rhy ifanc i ddygymod
â'r hyn oedd yn digwydd i mi,
y treisio brwnt diarwybod.

Dim ond deunaw oed oeddwn i
pan roddwyd clo ar fy rhyddid,
harddegyn yn breuddwydio fry,
ond hunllef a ddaeth o 'mywyd
mewn cell dywyll o dan y tŷ,
heb wên yr haul, heb hylendid.

Dim ond mam i'w blant oeddwn i,
"offer" i hwyluso'r geni,
di-enaid wrth golli babi.
Mi fu'n ddall i'r holl dosturi
ac yn fud i'r holl alaru;
parhau â'r arteithio di-ri.

Dim ond mam i 'mhlant oeddwn i,
fy merch yn diodde'n ei gwely
yr awyr prin yn peryglu
ei llygaid yn methu gwenu.
Ffawd unwaith eto'n rheoli,
ai hun fu cread y pechu?

Dim ond oedolyn ydw i
rhyddid a ddaeth i'm cusanu,
ond caeth ydwyf i'r ysbyty
fy nghyw cynta'n dal i gysgu
ninnau'n cael ein seicolegu,
cwarter canrif sydd i'w lenwi.

Catrin Siôn (22.05.08)

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.