Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Catrin Dafydd, Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 22-26 Hydref 2007.
Ar nos Iau, Hydref 25, daeth Catrin ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei cherdd newydd. Dyma destun ei cherdd, yn ôl Catrin:
"Yr wythnos hon cyhoeddwyd y cafodd deunaw o blant bach eu gwrthod o Ysgol Lôn Las yn Abertawe ar ddechrau'r tymor am nad oedd digon o le iddyn nhw. Hyn er i Gyngor Sir Abertawe addo y byddai'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn cynyddu yn y ddinas er mwyn ateb y galw. Mae'r deunaw na chafodd le yn Ysgol Lôn Las, bellach yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion Saesneg."
Deunaw
Yn Lôn Las, mae'n orlawn,
mae'n din sardins o llawn.
Mae 'na resi wrth y drysau'n
torri boliau i gael dod mewn.
Yn Lôn Las, mae mamau
yn dal yn y dwylo llai
wrth i'r siom eu llenwi
a'u gobaith rhwygo'n ddau.
Yn Lôn Las aeth ymaith
deunaw a'u gweflau'n gaeth.
Deunaw na chafodd allwedd
ar ddechrau hyd y daith.
* * *
Deunaw llaw heb gyfri.
Deunaw bys heb un, dau, tri.
Deunaw sydd ar wasgar
wedi'w cymryd gan y lli.
Deunaw ddaeth yn llawen,
yn agored â gwen.
Deunaw na ddaw'n ôl.
Deunaw aeth yn hen.
Deunaw gaiff 'lunch' ac nid 'cinio',
heb ddeall 'buwch' na 'llo'.
Deunaw heb Sali Mali
na 'mi welais Jac y Do'.
Deunaw aeth mewn ennyd.
Deunaw, blantos mud.
Deunaw sy'n anadlu.
Deunaw ein newid byd.
Deunaw na all siarad.
Deunaw 'darlings Dad'.
Deunaw greddf a deunaw co',
heddiw i'w anghofio.
* * *
Ac i lawr lôn lydan arall
yr aiff bob un, yn ddall,
ar eu taith o Gymru i Wales,
heb weld byd rhwng y naill a'r llall.
Yn Lôn Las, roedd galw
a rhai'n ysu cael tynnu llw,
ond ciliasant am nad oedd desgiau,
na chadeiriau iddyn nhw.
Catrin Dafydd (22/10/07)
Gwrando
Gwrando'n fyw
Ymlaen nawr: C2: Nia Medi (23:02-01:00)
Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Nia Medi.
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

