Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Arwyn Groe, Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 28 Gorffennaf - 1 Awst 2008.
Ar nos Iau, Gorffennaf 31, daeth Arwyn ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd.
Ysgrifennodd Arwyn hi am fynd am dro i dafarn y Cann Offis yn Llangadfan, ar y nos Fercher pan oedd yn Fardd yr Wythnos.
Neithiwr yn y Cian
Un nos Fercher arferol;
Ŷd y wlad, cogie di-lol
Yn y Cian 'rôl amser cau
Yn yfed cynaeafau;
Hadau yn cael eu medi
Yn nhŷ'n doethinebu ni........
Dynion peryg Antigua,
Y cythraul yn haul yr ha',
Irác, rhyfeloedd erioed
Yn gowlasau gwaed glasoed;
Trafod beipas, a N.A.S.A.'n
Hanner cant. 'Rôl cwrw'r Cian
Galw ŷm am bres i'n gwlad
A llai o gerdded lleuad!
Dacw un yn trin Diciau
Un hafnos llawn ei hofnau,
Ninnau'n rhydd â'n geiriau rheg,
Yn methu gwerthu gwartheg -
Diadell awdurdodaeth
di-gic dros gefn gwlad gaeth
yn ei chael-hi, a chelwydd
pori rhad papurau rhwydd.....
Hwyl hwyr rhoi'r byd yn ei le
I wydriad.......... cyn mynd adre.
Arwyn Groe (08/11/07)
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

