Advertisement

Arwyn Groe

Arwyn Groe

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Arwyn Groe, Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 05-09 Tachwedd 2007.

Ar nos Iau, Tachwedd 8, daeth Arwyn ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd. Dyma destun ei gerdd, yn ôl Arwyn:

"Cyn i Joe Calzaghe gamu i'r ring yn hwyr y nos y penwythnos d'wetha', roedd 'na nifer o anobeithwyr yn darogan fod yr heriwr iau, Mikkel Kessler, am ei guro. Roedd Joe yn 'rhy hen' medde nhw. Mae llawer o bobol yn anobeithio'n fuan iawn wrth weld grym 'newydd' ifanc yn dod i'w herio i faes y gad yng Nghymru heddiw, fel erioed."

Joe Calzaghe a gornest y mileniwm

'Rhy hen' oedd y gri unwaith,
Rhy hen i roi' ddwrn ar waith,
Hŷn o lawer na'i heriwr;
Gwalch, wedi mynd i oed gŵr!
Hen amheuon yn cronni
A rhai'n 'neud ein harwr ni
Yn wannach yn ei henoed;

Yr un fu'r stori erioed.........

.....I faes cad gwlad ein tadau
Yn hwyr un nos, rhywun iau'n
Dod i'r ring â hyder oedd,
A dod am ein gwaed ydoedd.

Â'n gwlad saff ar y rhaffau
Heb ddwrn dur drwy'r bur hoff bau,
Afiaith yr heriwr ifanc
A ry i hil flas o'i thranc.

Er rhoi rownd i'r heriwr iau,
Codwn o'r holl gleciadau
A rhoi'n ôl â'n dyrnau ni, Hogiau, holl rym Calzaghe!

Arwyn Groe (08/11/07)

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.